Swyddi ar lein
Gweithiwr Cefnogi Cyswllt Iechyd Meddwl Dros Dro
£25,419 - £27,514 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2024
- Cyfeirnod personel:
- 22-22875
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cefnogi Cyswllt Iechyd Meddwl Dros Dro
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
- Dyddiad cau:
- 14/07/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2024 | 37 Awr
- Cyflog:
- £25,419 - £27,514 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn (YOTS), Y Felinheli
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Paula Owen ar 01248 683029
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 14/07/2022
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Ymrwymiad i gyfle cyfartal, gwerthfawrogi amrywiaeth ac arfer gwrth-wahaniaethol, sydd wedi ei adlewyrchu yn y perthnasau proffesiynol a feithrinir gyda defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr a’r cyhoedd
Agwedd anfeirniadol tuag at bobl sydd wedi eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys troseddwyr
Awch i weithio o fewn, a chyfrannu tuag at, ddiwylliant cadarnhaol, deinamig, blaengar ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gallu achrededig a brofir o fewn maes gwaith ieuenctid, addysg, Hyfforddiant ac iechyd meddwl neu barodrwydd i weithio tuag at y rhain.
Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisi presennol mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed.
Dymunol
Cymhwyster cysylltiedig â Chamddefnyddio Sylweddau
Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (neu gyfatebol).
Cymhwyster addas mewn iechyd meddwl.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o gydlynu ymyraethau strwythurol i unigolion â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau neu grwpiau bregus eraill.
Dymunol
Profiad o ddarparu ymyrraeth strwythuredig i unigolion sy’n profi materion iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau neu grwpiau bregus eraill.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu ymateb yn gadarnhaol ac yn hyblyg i flaenoriaethau a datblygiadau
Gallu datrys problemau mewn modd rhesymegol a chanolbwyntio ar ddatrysiad a chymryd camau sy’n briodol i’r rôl.
Profiad o gynllunio, darparu a monitro rhaglenni effeithiol o gefnogaeth strwythuredig, gwaith ataliol ac ymyrraeth therapiwtig, a anelir at wella iechyd meddwl mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau.
Y gallu i hybu a chefnogi cyrhaeddiad cyfalaf adfer ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny yr effeithir arnynt gan iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.
Dealltwriaeth o’r rhwystrau, llwybrau a chyfleoedd ar gael i bobl ifanc gan gynnwys hyfforddiant, sgiliau a gwirfoddoli.
Gwybodaeth am yr ystod o anawsterau iechyd meddwl emosiynol ac ymddygiad y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu.
Hanes blaenorol llwyddiannus o ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc o grwpiau bregus neu profiad helaeth o ddarparu cyngor a chefnogaeth lles meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau.
Ymwybyddiaeth o bolisïau cenedlaethol presennol ar bobl ifanc, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o bolisïau sy’n ymwneud â diogelu plant ac oedolion diamddiffyn a sut mae’r rhain yn dylanwadu ar ymarfer.
Gwybodaeth am rôl cymunedau a sefydliadau partner o ran cefnogi canlyniadau cyfannol
Sgiliau Technoleg Gwybodaeth gryf
Dymunol
Profiad o ddarparu ystod o weithgareddau i blant a phobl ifanc.
Gallu i reoli ac arwain sesiynau gwaith grŵp.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Rôl y gweithiwr cyswllt iechyd meddwl yw darparu gwasanaethau i bobl mewn perthynas â niwed sy’n ymwneud â sylweddau drwy:
• Mynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl yr unigolyn drwy sicrhau bod materion iechyd meddwl sy’n rhwystrau i ganlyniadau l lwyddiannus yn cael eu harchwilio ac yn derbyn sylw priodol.
• Darparu pwynt cyswllt canolog i hwyluso mynediad i wasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau cysylltiol eraill yn y gymuned a all gynorthwyo yn y broses adferiad.
• Cefnogi cyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth ehangach a all fod yn effeithio ar les emosiynol, fel cynnal tenantiaethau, gwella cynhwysiant cymunedol a datblygu sgiliau ar gyfer annibyniaeth.
• Darparu’r cynllun cefnogi lleol y cytunwyd arno i’r unigolyn mewn perthynas â’u hanghenion iechyd meddwl.
• Cysylltu pobl o fewn y gwasanaeth i weithgareddau cymunedol, digwyddiadau a rhwydweithiau cefnogaeth anffurfiol.
• Sicrhau bod yna gylch o gefnogaeth o amgylch pob unigolyn a chyd-gynhyrchu’r rhwydwaith cefnogi hwnnw gyda’r unigolyn.
• Cysylltu pobl gyda materion sy’n ymwneud â’u camddefnydd eu hunain o sylweddau.
• Lleihau niwed i bobl ifanc sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.
• Gwella a chefnogi cymhelliant pobl ifanc ar gyfer newid.
• Asesu a galluogi llwybrau gofal unigol i gael eu datblygu gyda phobl yn briodol.
• Darparu ystod o ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth.
• Cynnal gwaith partneriaeth ar draws y sector cymuned ehangach.
• Darparu gwasanaeth uniongyrchol i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau grŵpiau cymunedol ac addysg anffurfiiol ar draws yr ardal gan ddarparu gwybodaeth briodol am ddefnydd/gamddefnydd o sylweddau, lleihau risg, lles meddwl, iechyd a chymdeithasol.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cynnal asesiad o angen plant a phobl ifanc am ofal, gan gynnwys y defnydd o becynnau asesu cychwynnol a chynhwysfawr.
• Drwy asesiad, nodi a blaenoriaethu anghenion, risgiau a chyfeirio at y gwasanaethau perthnasol.
• Darparu gwasanaethau gwaith achos i blant a phobl ifanc gan ddefnyddio modelau theori cydnabyddedig, cynllun gweithredu a systemau adolygu.
Prif Ddyletswyddau.
• Bydd y Gweithiwr Cyswllt Iechyd Meddwl yn ymgymryd â’r holl dasgau fel yr amlinellwyd, rhoddir blaenoriaeth i’r canlynol;
• Darparu ymyrraeth wyneb i wyneb, cydlynu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n ceisio cymorth i fynd i’r afael â’u camddefnydd o alcohol a chyffuriau ble mae mater iechyd meddwl wedi cael ei hamlygu.
• Cynnal asesiadau blaenoriaethu, risg cynhwysfawr er mwyn asesu anghenion unigol, nodi amcanion a pharatoi pecyn cefnogaeth ac adolygu’r rhaglen a deilliannau yn rheolaidd.
• Darparu ymyrraeth argyfwng ble bo’r angen ac yn briodol.
• Cefnogi cyfeiriadau ymlaen i asiantaethau perthnasol eraill. I gefnogi anghenion ehangach.
• Rhoi grym i unigolion a’u galluogi i helpu eu hunain drwy wneud dewisiadau a phenderfyniadau hysbys.
• Sicrhau mynediad a chynnal rhwydweithiau a gwasanaethau cefnogaeth briodol i bobl ifanc.
• Cynnal cofnodion defnyddiwr gwasanaeth ysgrifenedig a nodiadau achos priodol.
• Cefnogi pobl yn weithredol i barhau i ymgysylltu â’r gwasanaeth.
• Sicrhau cyfranogiad gweithredol pobl ym mhob agwedd o’u cynllun cefnogi.
• Cynnal y wybodaeth ddiweddaraf o holl faterion, polisïau a chanllawiau arfer gorau ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl.
• Cysylltu ag asiantaethau cyfeirio ynglŷn ag asesiadau unigol ac anghenion a chynnydd, yn arbennig cysylltu gyda CAMHS ac Ysbyty Gwynedd ynglŷn â phobl ifanc sydd wedi eu cyflwyno yn yr Adran Achosion brys ac/neu yn cael eu derbyn yn y Ward Paediatreg.
• Cael mynediad i wasanaethau ac adnoddau angenrheidiol eraill a nodwyd mewn cydweithrediad â chleient unigol, drwy gyfeirio, trafod ac eiriolaeth ble bo’n briodol.
• Darparu gwybodaeth gywir ac ateb ymholiadau ar faterion am gamddefnyddio sylweddau/alcohol.
• Cyfrannu at roi sgyrsiau, gweithdai, cyflwyniadau, darparu hyfforddiant ble bo’n briodol.
• Cyfrannu at ddarparu ymgyrchoedd ymestyn allan.
• Gweithio o fewn polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau y cytunwyd arnynt i ddiogelu plant ac oedolion.
• Cynnal a chadw holl gofnodion rheoli achos (papur ac electronig) yn unol â chanllawiau a phrotocolau statudol lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt
• Yn cynnwys cyfrifoldebau penodol Cyswllt Iechyd Meddwl;
• Cadw gwybodaeth am yr ystod o anawsterau iechyd meddwl emosiynol ac ymddygiadol y gall pobl wynebu.
• Defnyddio ystod o adnoddau a anelwyd at wella iechyd meddwl.
• Canfod pan mae sefyllfa unigolyn angen ymyrraeth bellach i’r hyn mae’r gwasanaeth yn ddarparu.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• I weithio’n hyblyg, i ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n rhesymol, ar draws y gwasanaeth cyfan, ac mewn unrhyw leoliad o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol o’r prif safle gwaith.
• i weithio’n hyblyg i ddarparu goruchwyliaeth gweithio’n hwyr ac ar benwythnos fel bo’r angen.