Swyddi ar lein
Swyddog Cynhwysiad- Ysgol Bro Idris
£18,852 - £20,815 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22868
- Teitl swydd:
- Swyddog Cynhwysiad- Ysgol Bro Idris
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 12/07/2022 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £18,852 - £20,815 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Ysgol Bro Idris, Dolgellau
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSGYSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 585 o ddisgyblion)Dyddiad dechrau: 1af Medi 2022
SWYDDOG CYNHWYSIAD
Mae Llywodraethwyr yn dymuno penodi Swyddog Cynhwysiad i Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol a’r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Swyddog Cynhwysiad yn yr ysgol. Gweler y Swydd Disgrifiad a’r Manylion Person am fwy o wybodaeth am y swydd.
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a’ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i’ch oriau arferol.Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (£18,852 - £20,815) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
Pecyn cais i’w gael ar wefan Cyngor Gwynedd neu gan y Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Ffordd yr Aran, Dolgellau, Gwynedd LL40 1HY. Yn arferol mae’r Ysgol yn derbyn ceisiadau drwy’r post yn ogystal ag ar lein, ond yn sgil yr amgylchiadau presennol parthed COVID-19 mae’n anorfod ein bod ond yn medru derbyn ceisiadau ar lein ar hyn o bryd. Fel arall, medrwch e-bostio’r cais i sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 12 GORFFENNAF 2022.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
MANYLEB PERSON
Swyddog Cynhwysiad
Profiad• Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o’r oedran priodol.
Cymwysterau
• Cyfarfod â safonau Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth.
• Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog – cyfwerth â NVQ Lefel 2 mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
• Hyfforddiant mewn strategaethau dysgu perthnasol, e.e. llythrennedd.
• Sgiliau/hyfforddiant arbenigol yn y maes cwricwlaidd neu ddysgu, e.e. dwyieithrwydd, iaith arwyddo, TGaCh.
Gwybodaeth/Sgiliau
• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /codau ymarfer/ deddfwriaeth perthnasol.
• Gwybodaeth weithio a phrofiad o weithredu cwricwlwm cyfnodol cenedlaethol/sylfaenol a rhaglenni/strategaethau dysgu eraill perthnasol.
• Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysgu plentyn.
• Deall fframweithiau statudol perthynol i addysgu.
• Y gallu i berthnasu’n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio’n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a’ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.
Swydd Ddisgrifiad
DISGRIFIAD SWYDD Ysgol Bro Idris
SWYDD: Swyddog Cynhwysiad Ysgol Bro Idris
YSTOD CYFLOG: Graddfa S1 Pwyntiau 12-17 – £18,852 - £20,815
Amser 35 awr yr wythnos
Tymor Ysgol (40 wythnos yn cynnwys 5 diwrnod HMS a 5 diwrnod yn ystod y gwyliau)Oriau gwaith arferol: 8.45– 16:15 (hanner awr i ginio)
DEILIAD SWYDD:
YN ATEBOL I: Dirprwy Bennaeth Ysgol Bro Idris. Bydd y deilydd yn gweithredu yn unol a chyfarwyddyd dydd i ddydd y Dirpwy Bennaeth.
DYLETSWYDDAU: Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn ôl polisïau’r ysgol.
PWRPAS SWYDD
• Ysgwyddo rôl arweiniol i weithredu gweledigaeth gynhwysol Ysgol Bro Idris.
• Gweithredu fel aelod arweiniol o dîm o weithwyr ymgysylltu aml-ddisgyblaethol ar gyfer sicrhau fod disgyblion bregus Ysgol Bro Idris yn derbyn cefnogaeth, sgiliau a`r cyfleoedd unigryw fel eu bod yn llwyddo i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu waith. Gwneir hyn trwy ddatblygu cysylltiadau effeithiol rhwng Ysgol Bro Idris, disgyblion, teuluoedd a`r gymuned leol ac i ddarparu`r cymorth a`r sgiliau addas ar eu cyfer.
• Cynnal a gwella ymddygiad grwpiau o ddisgyblion neu unigolion.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am unigolion neu/a grwpiau penodol o ddisgyblion gan ddilyn canllawiau gan athro ond gan weithio`n annibynnol i lefel uchel.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytûn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
• Cyfrifol am reoli a datblygu agweddau cynnal ymddygiad a lles o fewn yr ysgol gan roi arweiniad i gymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.Prif gyfrifoldebau
• Defnyddio adnabyddiaeth bersonol, gwybodaeth athrawon am ddisgyblion a gwybodaeth sydd o fewn system adnabod yr ysgol ar gyfer adnabod disgyblion a blaenoriaethu cefnogaeth.
• Ymateb i gyfeiriadau a thrafod darpar achosion gyda thîm cynhwysiad yr ysgol.
• Gweithredu fel mentor ac eiriolwr ar gyfer disgyblion yn unol â threfn yr ysgol gan ddarparu elfen fugeiliol a gosod targedau realistig.
• Gwrando ac estyn cymorth i`r disgyblion ddatrys nifer o’r rhesymau sy`n eu rhwystro rhag llwyddo mewn addysg a`u cyfeirio at ddarpariaeth arbenigol sydd yn ymateb i`r angen.
• Gweithio`n agos gyda`r disgyblion yng nghyd-destun eu teuluoedd yn unol â`u hanghenion ac unrhyw gynllun gweithredu boed hynny ar sail trefniadau 1:1 neu fel grŵp.
• Bod yn atebol am gynnydd ddisgyblion a chyfrannu at darged o leihau y nifer sydd mewn risg o beidio ymgysylltu mewn addysg, hyfforddiant a gwaith yn 16 oed.
• Gweithredu fel pwynt cyswllt i ymholiadau gan rieni a gwarchodwyr ar gyfer disgyblion penodol, darparu gwybodaeth ac arweiniad a`u cyfeirio i`r ystod o gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
• Adnabod bylchau mewn darpariaeth ysgol a chydweithio hefo`r dirprwy bennaeth i lenwi`r bylchau hynny.
• Darparu asesiadau safonol a pharatoi a sicrhau fod cynlluniau gweithredu priodol yn cael eu cwblhau ar gyfer y disgyblion.
• Tracio ac adolygu cynnydd disgyblion ac adrodd i`r ysgol, rhieni/gwarchodwyr a disgyblion.
• Cefnogi`r broses integreiddio disgyblon a theuluoedd newydd i`r ysgol a`r gymuned.
• Cryfhau`r berthynas rhwng yr ysgol, disgyblion a`r gymuned trwy gydweithio gyda sectorau gwirfoddol, iechyd, cyhoeddus, cymunedol a.y.y.b.
• Y dirprwy bennaeth fydd yn gweithredu rôl fel prif gyswllt asiantaethau megis e.e. gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaeth iechyd, yr heddlu. gwasanaeth cynhwysiad Cyngor Gwynedd. Bydd deilydd y swydd yn cefnogi yn y cyswllt hwn.
Presenoldeb• Cydweithio â`r ysgol a`r Gwasanaeth Lles Addysg i fonitro presenoldeb a gweithredu`n briodol yn dilyn cyfeiriadau o fewn yr ysgol.
• Llunio a gweithredu amrywiol strategaethau effeithiol i leihau absenoldebau a hybu presenoldeb disgyblion bregus yr ysgol.
• Darparu ymgynghoriaeth, hyfforddiant, cefnogaeth a goruwchwyliaeth ar gyfer strategaethau i atal problemau megis bwlio a thriwantiaeth.
• Casglu gwybodaeth gan staff yr ysgol gan roi ystyriaeth briodol i faterion lles a phresenoldeb.
• Adnabod ffactorau sy`n effeithio ar les ac ymddygiad disgyblion yn yr ysgol ac yn y cartref a hwyluso ymyriadau priodol gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill trwy ddarparu asesiadau safonol a pharatoi a sicrhau fod cynlluniau gweithredu priodol yn cale eu cwblhau ar gyfer yr unigolion.Cefnogi addysg ôl 14
• Gweithredu fel gweithiwr allweddol mewnol a gweithiwr cyswllt pecyn 25 awr CA4 mewnol yr ysgol.
• Cyfrifoldeb am gydlynu a sicrhau darpariaeth i ddisgyblion penodol hyd at ddiwedd eu gyrfa addysgol.
• Sicrhau fod disgyblion perthnasol yn cael mynediad i gyrsiau trac ac yn cael mynediad i gyrsiau rhwydwaith.Cefnogaeth i Ddisgyblion o fewn y dosbarth.
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu’r disgyblion.
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Datblygu a gweithredu cynlluniau addysg unigol a chynlluniau cynnal ymddygiad.
• Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
• Cefnogi’r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunan-reolaeth ac annibyniaeth.
• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
• Cefnogi rhan rhieni yn nysgu’r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
• Defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, a.y.y.b.Cefnogaeth i’r Ysgol
• Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau perthynol i waith bugeiliol, cynnal ymddygiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, adrodd ar bryderon i’r person priodol.
• Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
• Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Defnyddio blaengaredd fel y bo’n briodol i ddatblygu dulliau amlasiantaethol priodol i gefnogi disgyblion.
• Adnabod hunan-gryfderau ac ardaloedd o arbenigedd a defnyddio’r rhain i arwain, cynghori a chefnogi eraill.
• Cyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol o fewn y canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
• Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i’r ysgol sy’n cadarnhau ac yn ymestyn gwaith yn y dosbarth.Materion Amddiffyn Plant
• Gweithredu yn unol â chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru.
• Cyfrifol am adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
• Cynrychioli`r ysgol ar unrhyw bwyllgor rhyngasiantaethol perthnasol.
• Mynychu cynadleddau achos a chyfarfodydd mewn perthynas â`r disgyblion hynny sydd yn cael eu hadnabod gan yr ysgol.
• Cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd rhyng asiantaethol neu gyfarfodydd strategaeth.Arolygu.
• Arolygu gwersi yn ystod absenoldebau dirybudd a chynllunedig athrawon gan:
• roi gwaith i`r disgyblion sydd wedi ei baratoi gan athrawon.
• gadw trefn a sicrhau fod y disgyblion yn gweithio ac ymddwyn yn briodol.
• Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel aelod o dîm gan sicrhau trefn briodol a darparu cymorth disgwyliedig o fewn yr arholiadau.Materion eraill.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad proffesiynol.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn unol â`r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
• Gweithredu o fewn polisïau`r ysgol yng nghyswllt Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau yr ysgol. Sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau Carbon yr ysgol yn unol â`r cynllun rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu`n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed Carbon yr ysgol.
• Gyrru bws mini heb bresenoldeb oedolyn arall gan ddilyn gweithdrefnau Polisi Bysiau Mini Cyngor Sir Gwynedd.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol sy`n cydfynd â lefel y cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.Cyfrifoldebau Rheoli Llinell Lle bo’n Briodol o dan arweiniad y Dirprwy Benaneth
• Rheoli cymorthyddion addysgu eraill.
• Cysylltu rhwng rheolwyr/staff addysgu a chymorthyddion addysgu.
• Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda staff a reolir.
• Cynrychioli cymorthyddion addysgu mewn cyfarfodydd priodol addysgu staff/rheoli/arall.
• Ymgymryd â recriwtio/anwytho/gwerthuso/hyfforddi/mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.