SWYDDOG CYNHWYSIAD
Crynodeb o’r Swydd
• Bydd deilydd y swydd yn aelod o dîm Lles Ysgol Tryfan
• Cefnogi ac addysgu disgyblion dan arweiniad athrawon Ysgol Tryfan.
• Addasu deunyddiau dysgu yn ôl yr angen,
• Dysgu disgyblion mewn grwpiau bychain neu fel unigolion.
• Cefnogi disgyblion mewn rhai gwersi prif lif o fewn yr ysgol.
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau cefnogaeth addysgol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.
• Sicrhau cefnogaeth addysg/cyswllt a phlant sydd ddim yn mynychu y darpariaeth prif lif am pa bynnag reswm.
• Cymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu.
• Cynllunio, paratoi a chyflwyno elfennau o’r pynciau craidd, cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau.
• Monitro, asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yr elfennau yma.
• Hyrwyddo cynnydd a lles cyffredinol disgyblion yn unol ag athroniaeth y ddarpariaeth.
• Gweithredu’r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
• Addysgu a chefnogi disgyblion sydd ddim yn ddysgwyr arferol prif lif.
Cyfrifoldeb am Adnoddau
• Adnoddau dysgu cyffredinol.
• Offer yr Hafan a’r Noddfa yn cynnwys offer TGCh i gefnogi dysgu’r disgyblion
Prif Ddyletswyddau
● Cynorthwyo’r Arweinydd Cynhwysiad i gynnal a sicrhau amgylchedd briodol yn yr
Hafan a’r Noddfa
● Sicrhau fod disgyblion Hafan / Noddfa yn gwneud cynnydd addas yn eu gwaith ysgol
/ presenoldeb / ymddygiad
● Cefnogi a rhoi cynhaliaeth a chefnogaeth dwys i rai disgyblion unigolion
● Sicrhau bod adnoddau dysgu pwrpasol ar gael i alluogi’r disgyblion i gael parhad yn
eu haddysg
● Cynnal grwpiau annog a grwpiau ymyrraeth, monitro cynydd ac addasu yn ôl yr
angen
● Cyfrannu at lunio CDU disgyblion sydd gyda heriau ymddygiadol
● Cynnal disgyblion i gwblhau cyrsiau amgen a gweithio tuag at gymwysterau amgen
● Cynorthwyo os oes angen ymateb ar frys oherwydd ymddygiad disgybl
● Goruwchwilio disgyblion sydd ar gyfnod cosb / gwaharddiad mewnol
● Darparu anogaeth ddysgu ar gyfer disgyblion sydd yn yr hafan / noddfa
● Cynnal a datblygu perthynas adeiladol a buddiol gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill
● Cynorthwyo i gwblhau cyfeiriadau penodol ar gyfer asiantaethau allanol
● Parodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd datbllygu proffesiynol perthnasol ee ELSA
● Monitro cynnydd grŵp penodol o ddisgyblion e.e. grŵp targed ymddygiadol,
disgyblion PYDd, disgyblion sydd â phresenoldeb isel ac adrodd yn ôl i’r Pennaeth
Blwyddyn
● Cymryd galwadau ffôn gan rieni ar ran y tim lles neu gwrdd â rhieni sy'n ymddangos
yn ddi-rybudd yn yr ysgol
● Cynorthwyo wrth gydlynu gwasanaethau gydag asiantaethau allanol
● Cydweithio gyda'r Pennaeth Blwyddyn ar faterion sy'n ymwneud ag ymddygiad,
canmoliaeth a lles y myfyrwyr.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth/Dirprwy Bennaeth.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.