Swyddi ar lein
Swyddog Cefnogi Teulu
£25,419 - £27,514 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2023
- Cyfeirnod personel:
- 22-22841
- Teitl swydd:
- Swyddog Cefnogi Teulu
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 07/07/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2023 | 37 Awr
- Cyflog:
- £25,419 - £27,514 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Cefnogi Teulu – GWASANAETH UNED BLYNYDDOEDD CYNNAR
CYFLOG: £22,571.00 - £27,514.00
LLEOLIAD / LOCATION: Arfon / Dwyfor – I'w Gadarnhau
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Susan Layton ar 07827449258
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 07/07/2022.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Person sydd â’r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Yn fentrus, yn hyderus ac yn barod i gymryd risgiau rhesymol
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm.
DYMUNOL-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOLHANFODOL
Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol lefel 5 o fewn y maes addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd/gofal.
Derbynir cymhwyster Lefel 4, a bod yr ymgeisydd yn fodlon gweithio tuag at ofynion Lefel 5.
A chymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF ar gyfer gweithwyr cymorth, neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster yma.
DYMUNOLHyfforddiant mewn rhaglenni rhiantu yn seiliedig ar dystiolaeth
PROFIAD PERTHNASOLHANFODOL
Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu’i theuluoedd o fewn y maes gofal, addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd
Profiad o asesu anghenion amrywiol a chymhleth ac ymateb iddynt, gan ganolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau a chyflwyno newid.
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni wrth gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
Profiad o weithio mewn sefyllfaoedd amlasiantaethol ac o feithrin perthynas
Profiad o farchnata gwasanaeth i gynulleidfa amrywiol sy ' n cynnwys gweithwyr proffesiynol, plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr.
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teulu
DYMUNOLProfiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOLHANFODOL
Gallu i weithio’n arloesol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau wrth gynllunio gwaith yn effeithiol ac wrth gyrraedd targedau a chyflawni tasgau.
Ymwybyddiaeth o ACES (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod), a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a gweithredu ymyraethau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, a gweithdrefnau amddiffyn plant.
Y gallu i adnabod gallu rhieni i fagu plant, a'r risg a'r ffactorau amddiffynnol.
Dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol. Sgiliau cyfrifiadurol da a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint)
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOLGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Gweithredu cyrsiau /dosbarthiadau a gwaith un i un yn y maes rhiantu drwy weithio’n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd a thadau yn ardal Arfon.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Offer cyrsiau
- Arian mân – arian gweithredu cyrsiau rhiantu
Prif Ddyletswyddau.
- Cyfrifoldeb dros weithredu cyrsiau/dosbarthiadau a gwaith un i un yn y maes rhiantu drwy weithio’n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd a thadau.
- Cynefino â’r ystod o raglenni sydd ar gael i gefnogi teulu gan weithredu arlwy o ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd
- Gweithredu rhaglenni rhiantu drwy:
- Gweithio gyda rhieni i gwrdd ag anghenion eu plant
- Gweithio gyda rhieni i gwrdd ag adnabod ein hanghenion eu hunain
- Alluogi rhieni i ddatblygu dulliau o sut i ddelio gydag ymddygiad a materion i fywyd bob dydd plentyn
- gyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni
- ddarparu mynediad i wybodaeth
- adnabod dulliau i wella sgiliau'r rhieni.
- Gweithredu asesiadau cychwynnol effeithiol a llwyddiannus ar gyfer y gwaith cefnogi teulu.
- Cydweithio’n agos gyda’r tîm Gyda’n Gilydd i gynnig ymyrraethau priodol i deuluoedd yn ardal Arfon.
- Cynnig cefnogaeth i ddatblygu arbenigedd Plas Pawb i fentora staff i redeg cyrsiau rhiantu amrywiol effeithiol i ystod o oedrannau. Arwain arweinwyr newydd di brofiad i redeg cyrsiau cychwynnol drwy arsylwi, cyd rhedeg a chynnig cefnogaeth fel bod angen fel bod y cyrsiau yn rhedeg yn effeithiol.
- Ysgogi darpariaeth riantu newydd mewn cydweithrediad a phartneriaid amrywiol drwy:
- Adnabod lleoliadau addas ar gyfer rhedeg cyrsiau newydd gan gynnal asesiadau risg priodol.
- Cydweithio i adnabod lleoliadau gofal plant fel meithrinfa Plas Pawb i gyd fynd gyda rhediad y cyrsiau rhiantu neu os yn rhaglen reolaidd sefydlu darpariaeth gofal plant achlysurol ar y safleoedd newydd gan ymofyn cyngor yr AGGCC i sicrhau fod y ddarpariaeth yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau angenrheidiol.
- Adnabod staff priodol a chytuno ar ymrwymiad llawn i gynnal cyrsiau rhiantu
- Cydweithio i adnabod rhieni/ gofalwyr addas
- Cydgordio’r asesiadau cychwynnol
- Adnabod unrhyw rwystrau eraill e.e. trafnidiaeth.
- Mewn cydweithrediad â chydweithwyr priodol marchnata’r gwasanaethau sydd ar gael e.e. crynhoi’r wybodaeth am y rhaglenni rhiantu yn dymhorol a llunio cyfeirlyfr electronig - mewn cydweithrediad â ‘Gwynedd Ni’
- Cydweithio’n agos gyda’r tîm Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf ac asiantaethau eraill i gydlynu a chyd gynnal grwpiau amrywiol ar safle Plas Pawb a chanolfannau eraill. Gweithio ar ddatblygu grwpiau neu weithgareddau ar y safle gan ddenu grwpiau penodol fel tadau i geisio defnyddio’r cyfleusterau.
- Cydweithio i sefydlu a chynnal systemau i fonitro’r ddarpariaeth drwy fesur effaith y rhaglenni a sicrhau systemau rheoli perfformiad effeithiol. Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau data mewn modd amserol a thaclus a sicrhau y bodlonir yr holl ofynion ar gyfer yr holl asiantaethau allanol mewn perthynas â chynnydd a monitro rhaglenni gwaith.
- Mynychu a chyfrannu’n weithredol at ystod o gyfarfodydd, digwyddiadau a seminarau sy’n rhoi sylw i faterion sy’n gysylltiedig â datblygiad yn y maes cefnogi teulu er mwyn rhaeadru’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion a meddylfryd cyfredol: rhwydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fel y Fforwm Magu Teulu - Plant yng Nghymru.
- Darparu rheolaeth ofalus ar y gyllideb ac unrhyw adnoddau eraill a roddir i’r tîm e.e. gweinyddu taliadau arian man ar gyfer rhediad effeithiol y rhaglenni a gweinyddu taliadau gofal plant
- Gweithio ar adnabod ffynonellau ariannol addas newydd i ddatblygu’r maes cefnogi teulu gan gyflwyno ceisiadau ariannol drwy arweiniad y Bwrdd Rheoli
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
O bryd i bryd angen i weithio oriau anghymdeithasol