Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud..
• Darparu gwasanaeth cyfreithiol i’r Cyngor sydd yn ei alluogi i weithio yn effeithiol er budd pobl Gwynedd
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Dim ag eithrio'r adnoddau swyddfa e.e. gliniadurr
Prif Ddyletswyddau. .
• Cynghori adrannau'r Cyngor a chleientau eraill ar faterion cyfreithiol o fewn meysydd penodol
• Yn ôl y galw mynychu a chynghori pwyllgorau'r Cyngor ar faterion yn deillio o feysydd gwaith penodol deilydd y swydd
• Cynrychioli'r Cyngor a chleientau eraill mewn llysoedd, tribiwnlysoedd, ymchwiliadau a gwrandawiadau ffurfiol eraill, yn ôl y galw ac o fewn meysydd penodol
• Ymdrin â gwaith cyfreithiol yn deillio o feysydd penodol
• Cynorthwyo o bryd i'w gilydd yn ôl y galw â gwaith aelodau eraill o'r uned gyfreithiol
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a roddir i ddeilydd y swydd o bryd i'w gilydd gan y Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)
MEYSYDD PENODOL
• Gall y meysydd gwaith penodol amrywio o bryd i'w gilydd. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys y canlynol:
• Ymdrin â materion gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys: iechyd meddwl, gofal yn y gymuned, anabledd, achosion amddifadu o ryddid a chartrefi cofrestredig
• Cynrychioli'r adran ar baneli a phwyllgorau allanol yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.
• Ymdrin â'r agweddau canlynol o faterion addysg;, cyfrifoldebau athrawon ac ysgolion, gwaharddiadau, anghenion addysg ychwanegol , dyletswyddau llywodraethwyr.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Click here to enter text.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb