Swyddi ar lein
Gweithiwr Cefnogi Prosiect Hosteli Nos (Llawn amser) x6
£22,571 - £24,920 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22815
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cefnogi Prosiect Hosteli Nos (Llawn amser) x6
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Tai a Llesiant
- Dyddiad cau:
- 07/07/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £22,571 - £24,920 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Corris a Deiniolen
Manylion
Hysbyseb Swydd
- Swydd Gweithiwr Hostel (Nos) Llawn amser x 6
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y
[Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu âSioned Heledd Thomas ar 01286 682785
Cynhelir cyfweliadau i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 07/07/2022
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gyda’r gallu i weithredu mewn modd sydd yn parchu hawliau unigolyn
Person aeddfed sydd yn gallu derbyn cyfrifoldebau
Agwedd bositif
Sgiliau gwrando da
Pendant
Y gallu i weithio ar ben ei hun, neu fel aelod o dîm fel bo angen
Y gallu i weithio o dan bwysau gwaith
Y gallu i reoli, trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith
Y gallu i ddelio gyda gwybodaeth yn gyfrinachol
Y gallu i weithio ar liwt ei hun
Yn barod i fynychu hyfforddiant ac ymgymryd ag astudiaethau pellach
Diragfarn
Yn gohirio barn
Synhwyrol
Dangos empathi
Ymrwymiad cryf i ofal cwsmer
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Safon addysgol dda - o leiaf 5 TGAU neu gyffelyb yn cynnwys Cymraeg,
Saesneg a Mathemateg
Dymunol
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e cymorth cyntaf
Hyfforddiant ar Ddeddfwriaeth Tai a Digartrefedd
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio yn y maes digartrefedd neu o weithio gyda cleientiaid bregus
Profiad o asesu anghenion cleientiaid bregus
Profiad o ddelio gyda’r cyhoedd
Dymunol
Profiad o gynnal asesiadau cychwynnol er mwyn casglu gwybodaeth.
Profiad o ddelio gyda pobl bregus
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da
Sgiliau ysgrifennu da
Sgiliau negodi
Y gallu i asesu anghenion personol unigolion mewn modd sensitif
Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio systemau Technoleg Gwybodaeth
Y gallu i ddatrys problemau
Y gallu i gadw gwybodaeth ac ystadegau yn gyflawn
Y gallu i ddelio hefo’r cyhoedd mewn modd hyderus a phroffesiynol
Trwydded yrru llawn
Dymunol
Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaethau digartrefedd
Gwybodaeth gyfredol am gynlluniau cefnogi pobl
Profiad o weithio yn y maes cefnogi
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau
Sgiliau cymodi
Y gallu i ysgogi ei hun ac eraill
ECDL
Gwybodaeth am Opsiynau Tai, system budd-daliadau a digartrefedd yng Ngwynedd
Y gallu i ddatrys problemau yn greadigol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyfrannu at ddarparu cefnogaeth yn effeithiol i'r trigolion fel sydd wedi'i adnabod drwy eu cynlluniau cefnogaeth. Cyfrannu at rediad yr hostel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Adnoddau: Archwilio a monitro systemau larymau tan yn wythnosol, rheoli a monitro goleuadau a gwres a cyfarpar TCC (CCTV)
•Dodrefn a dillad gwlau
•Cyfarpar cegin e.e. llestri, ayyb
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau bod tasgau cadw tŷ a glanhau yn cael eu gwneud yn rheolaidd yn yr hostel a, lle bo angen, darparu cefnogaeth a chanllawiau ymarferol i drigolion gan gynnal safonau da o lendid a hylendid bob amser.
•Darparu cefnogaeth ddydd i ddydd i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn eu Cynlluniau Cefnogaeth gan weithio’n annibynnol a gwneud penderfyniadau cadarn heb oruchwyliaeth.
•Cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth gyda'u hawliadau am fudd-daliadau tai a chysylltiedig, dan gyfarwyddyd y Gweithwyr Prosiect.
•Cynnal cofnodion hostel, ffeiliau trigolion a chofnodion y gymdeithas yn gywir.
•Ymateb i ddigwyddiadau ac ymdrin â nhw'n briodol; cysylltu â staff y gymdeithas (Ar alwad - tu allan i oriau ac ati), y gwasanaethau brys, darparwyr cefnogaeth gwirfoddol a statudol ac ati, i gynnal diogelwch yr hostel bob amser.
•Bod ar ddyletswydd i dderbyn unrhyw ymholiad am ddigartrefedd ac ymgymryd a chofnodi gwybodaeth gychwynnol am yr unigolyn a’u sefyllfa. Sicrhau hefyd bod y wybodaeth yma yn cael ei drosglwyddo i weithiwr achos atebion tai heb oedi.
•Trefnu llety interim/dros dro addas fel bo angen yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac asesiadau risg unigol.
•Trefnu cludiant i lety dros dro pan fo angen.
•Ymgymryd â gweithdrefnau trosglwyddo rheolaidd ac effeithiol ar ddechrau / diwedd shifftiau, i sicrhau y caiff yr hostel ei reoli'n ddiogel, fel sy'n ofynnol gan yr uwch swyddog.
•Cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth gyda chynllunio a pharatoi i symud ymlaen i lety mwy parhaol.
•Sicrhau rheolaeth dydd i ddydd effeithiol a diogel o'r hostel yn absenoldeb Gweithwyr Prosiect ac Uwch Swyddog yr Hostel - yn unol â'r holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.
•Cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i gael sgiliau hanfodol megis , cyllidebu, llythrennedd TG, lle bo angen yn unol â'u Cynlluniau Cefnogaeth unigol, drwy weithgareddau mewnol effeithiol.
•Cysylltu â'r tîm Atebion Tai yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei adrodd yn effeithlon gan ddarparu a pharatoi adroddiadau digwyddiadau a nodiadau ffeil perthnasol.
•Ymgymryd â hyfforddiant i gynnal a gwella'r sgiliau sydd eu h’angen i ymgymryd â'r rôl hon.
•Cynorthwyo'r Gweithwyr Prosiect i ddarparu ystod o gefnogaeth mewn perthynas â thai i ddefnyddwyr gwasanaeth, gyda'r nod o alluogi iddynt reoli ei tenantiaethau unigol eu hunain gyda llai o gefnogaeth, ac o bosib heb gymorth yn y tymor hwy, ar amserlen a gytunir arni gyda'r Arweinydd Tîm.
•Cynorthwyo gweithwyr prosiect a defnyddwyr gwasanaeth gyda chynlluniau i symud ymlaen o lety mwy parhaol - lle bo hynny'n berthnasol - drwy gysylltu'n agos gyda staff perthnasol y Gymdeithas Tai, Adrannau Tai'r awdurdod lleol a darparwyr eraill fel sydd angen.
•Ymateb i ddigwyddiadau ac ymdrin â nhw'n briodol, gan gysylltu â gweithwyr achos, y gwasanaethau brys, asiantaethau gwirfoddol a statudol ac ati, i gynnal diogelwch y staff, y defnyddwyr gwasanaeth a'r llety bob amser.
•Cysylltu'n effeithiol gydag Adran Rheoli Asedau'r awdurdodau ynghyd â contractwyr preifat a chaniatáu mynediad i'r adeilad fel sydd angen.
•Yn gyfrifol am ddarparu adroddiadau cynhwysfawr yn ymwneud ag unrhyw faterion iechyd a diogelwch yn cynnwys adrodd am ddamweiniau a chydymffurfio â rheoliadau awdurdodau Iechyd a Diogelwch.
•Sicrhau bod unrhyw ddifrod a achosir i eiddo'r awdurdod wedi'i gyfyngu gyhyd â phosib.
•Cefnogi uwch swyddogion a'r Arweinydd Tîm drwy sicrhau y cynhelir safonau Iechyd a Diogelwch yn yr hostel e.e. cwblhau gwiriadau ystafelloedd.
•Paratoi ystafelloedd ar gyfer eu hail-osod.
•Trefnu a rheoli ystod o weithgareddau ymgysylltu ac ymglymiad i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol ymhlith defnyddwyr gwasanaeth.
•Gweithio'n annibynnol lle bo angen a hefyd fel aelod o dîm sydd wedi'i sefydlu yn yr ardal.
•Diogelu iechyd a llesiant emosiynol a chorfforol y defnyddwyr gwasanaeth.
•Darparu adroddiadau ac ystadegau fel bo’r angen gan gynnwys bod yn rhan o’r brosesu rheoli a monitro perfformiad a sicrhau bod staff yn cyrraedd targedau perfformiad adrannol a chorfforaethol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Efallai y bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd, is-bwyllgorau a gweithgorau, rhai ohonynt y tu allan i oriau gwaith arferol.
•Efallai y bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd ymateb i geisiadau i weithio oriau anghymdeithasol, fel bo angen
•Mae’r swydd hon wedi’i eithrio o dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. Gan hynny, os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chwi ofyn i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol am ddadleniad. Bydd y Cyngor yn darparu ffurflen briodol i’r perwyl hwn ac yn talu’r ffi cysylltiedig. Darperir manylion pellach ynglŷn â’r brosesu yn ôl yr angen.