Nodweddion personol
Hanfodol
Dangos ymddygiad ac agwedd briodol
•Bod yn deg a gallu trin pobl gyda pharch
•I fod yn gymwynasgar ac yn gwrtais
Dangos ymrwymiad i waith
•I fod yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau a chyfrifoldebau rôl prentis i’r lefel uchaf bosib
•I gyflawni pob dyletswydd sy’n ofynnol
•Deall pwysigrwydd cyfle cyfartal
Cyfrannu tuag at lwyddiant
•Cyfrannu tuag at lwyddiant y sefydliad, y tîm a’r gwasanaeth
•Gallu trefnu dy amser dy hun a chyflawni tasgau o werth
Gweithio fel rhan o dîm
•Gallu gweithio mewn tîm
•I gyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfathrebu'n rheolaidd ac yn effeithiol gydag aelodau eraill y tîm
Cyfathrebu gyda hyder
•Y gallu i gyfathrebu gyda hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg
•Y gallu i ddangos y sgiliau cywir i allu cyfathrebu yn gywir ar gyfer unrhyw gynulleidfa
Parodrwydd i ddysgu
•I ymrwymo i’th ddatblygiad i gyflawni dy swydd a’r brentisiaeth
•Adnabod anghenion datblygu personol yn barhaus a gweithredu arnyn nhw
Ymwybodol o beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
•Deall y sialensiau sydd yn ein wynebu fel Cyngor
•Manteisio ar gyfleoedd i fod yn greadigol ac yn arloesol
•Sicrhau dy fod yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr wyt yn ei wneud
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd y gofynion isod:
Un ai
•4 TGAU gradd D neu uwch
•Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma teilyngdod neu uwch)
Er gwybodaeth, bydd unrhyw gyfuniad o gymwysterau gyda gradd gyfatebol yn dderbyniol.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).