NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Un sy’n rhoi sylw i fanylion
• Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol
• Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm
• Un sy’n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol
• Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel a’r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun
• Un sy’n gallu ymdopi ag adegau o waith trwm
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd, cymhwyster proffesiynol neu profiad perthnasol yn y maes
DYMUNOL
• Sgiliau technoleg gwybodaeth uchel iawn gyda phrofiad o ddefnyddio gwahanol becynnau meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, Excel, PowerPoint)
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth
• Profiad o weithio a chyfathrebu a nifer o fudd-ddeiliaid
• Profiad o weithio ar becynnau gwaith cymhleth
• Profiad o allu ymdopi a nifer o dasgau pwysig yr un pryd
• Profiad o greu ystod eang o ddogfennaeth amrywiol
DYMUNOL
• Profiad o gofnodi mewn cyfarfodydd
• Profiad o weithio gyda methodoleg rheoli prosiectau e.e. PRINCE2
• Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad cymhleth
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth
• Y gallu i gynllunio, monitro, adrodd, trefnu, cynllunio a chyflwyno’n effeithiol
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin a phobl, ac ar bapur a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol
• Y gallu i gyfieithu dogfennau
• Y gallu i weithio o dan gyfarwyddyd a chydweithio fel aelod o dîm
• Trwydded yrru
DYMUNOL
• Gwybodaeth am y maes blynyddoedd cynnar
• Gwybodaeth am hanfodion methodoleg rheoli prosiectau PRINCE2
• Profiad o roi cymorth gydag achosion busnes
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.