Pwrpas y Swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn uniongyrchol i’r Pennaeth am weinyddiad effeithiol yr ysgol.
Bod yn gyfrifol am ymgymryd â phrosesau gweinyddol/ariannol, trefniadaethol dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff uwch
Cynorthwyo gyda chynllunio a datblygu gwasanaethau cefnogi.
Prif gyfrifoldebau
Archebu nwyddau ac offer yr ysgol, codi archebion, a delio gyda thaliadau.
Gweithredu system ‘petty cash’ yr ysgol, a chasglu a bancio arian yn ôl yr angen/ monitro’r defnydd o’r system taliadau cyllidol electronaidd.
Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf/dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy’n sâl, cysylltu â rhieni/staff, ayyb.(Delfrydol)
Trefnu teithiau/digwyddiadau ysgol, ayyb.
Trefnu a chasglu arian ar gyfer gwersi offerynnol
Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau gan nyrs yr ysgol, ffotograffydd, ayyb.
Rheoli Pobl
Gweinyddu’r drefn TR46 (c) absenoldebau ar gyfer staff gofalu. goruchwylio.
Gweinyddiaeth
Darparu gwasanaeth cefnogol gweinyddol i’r Pennaeth, a gwaith ysgrifenyddol i’r Tîm Rheoli yn ôl yr angen.
Darparu cefnogaeth glercio, e.e. llungopïo, ffeilio, ffacsio, e-bostio, cwblhau ffurflenni arferol a.y.y.b.
Cadw cofnodion/systemau gwybodaeth rheolaethol yn gyfredol, yn cynnwys mewnbwn Data Star / SIMS.
Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau eraill TG –seiliedig.
Trefnu a dosbarthu’r post.
Ymgymryd â gweinyddu arferol, e.e. cofrestrau/prydau ysgol.
Cyfieithu dogfennau ar gais y Pennaeth/Dirprwy
Gweithredu offer swyddfa, e.e. llungopïwr, cyfrifiadur.
Trefnu storio cyflenwadau’n drefnus a diogel.
Ymgymryd â gweinyddu ariannol arferol, e.e. casglu a chofnodi arian cinio.
Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth neu’r Dirprwy
Iechyd a Diogelwch
Mewn ymgynghoriad ȃ’r UDRh a’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu gyda swyddogion yr Adran Eiddo a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yr ysgol.