Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo a Dirprwyo ar ran y Rheolwr Cofrestredig
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Mewn cydweithrediad a dan arweiniad y rheolwr cofrestredig cymeryd cyfrifoldeb am reoli staff a chyllid y cartref yn effeithiol. Parchu a defnyddio’n briodol holl offer a chyarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod i’r rheolwr cofrestredig ac i’r asiantaeth neu wasanaeth priodol o unrhyw ddiffyg mewn unrhyw offer, cyfarpar neu o’r gwasanaethau (dwr, trwydan, nwy a.y.b).
Prif ddyletswyddau
Yr holl dasgau a nodir isod mewn cydweithrediad a dan arweiniad Rheolwr Cofrestredig y cartref.
•Bod yn gyfrifol ac yn atebol am reolaeth dydd i ddydd y cartref yn absenoldeb y rheolwr gan sicrhau fod yr holl weithgaredd yn cyfarfod y ddeddfwriaeth berthnasol, polisïau a chanllawiau Cyngor Gwynedd ac fod y safonau sy’n ddisgwyliedig gan Ddeddf Safonau 2000 yn cael eu cyfarch.
•Cynorwthyo i reoli cyllideb y cartref yn effeithiol gan gydymffurfio a Rheoliadau Ariannol Cyngor Gwynedd.
•Disgwylir i deilydd y swydd sicrhau fod holl weithgaredd y cartref yn cydymffurfio a gofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion perthnasol.
•Cynorthwyo i sicrhau fod yr adeilad, dodrefn, offer a chyfarpar y cartref mewn cyflwr da ac ar y cyd gyda’r swyddog perthnasol o’r adain Eiddo, sicrhau fod Rhaglen Datblygu ar gyfer y cartref yn cael ei hadolygu’n flynyddol.
•Cynorthwyo i adolygu’n flynyddol datganiad o bwrpas y cartref a’r holl ddogfennaeth perthnasol sydd ar gael i’r cyhoedd ac yn ofynnol dan y Deddf Safonau Gofal 2000.
•Cynorthwyo i sicrhau fod gweinyddiaeth y cartref yn drefnus ac yn gyfredol. Hyn i gynnwys Asesiadau Risg, ffeiliau’r staff gan gynnwys cofnod o’u cynllun datblygu a’u sesiynau goruchwyliaeth a’r ffurflen monitro gwybodaeth reolaethol.
•Sicrhau fod trefn gyfathrebu effeithiol yn gweithredu o fewn y cartref i alluogi fod gwybodaeth perthnasol ar gael i holl staff y cartref a beth bynnag yw eu patrwm gwaith ac fod trefn ffurfiol i rannu gwybodaeth rhwng pob shifft.
•Datblygu, monitro ac adolygu’r gwasanaethau o fewn y cartref i sicrhau fod y defnyddwyr yn derbyn gwasanaeth sydd yn cyfarfod eu anghenion asesedig.
•Sicrhau a cymeryd cyfrifoldeb ar y cyd gyda’r Rheolwr Cofrestredig fod Cynllun pob defnyddiwr yn gyfredol ac yn cael eu hadolygu ac fod pob cofnod sydd yn gysylltiedig a phob defnyddiwr unigol yn gyfredol.
•Sicrhau fod rheolwyr yr Uned Breswyl a Dydd yn ymwybodol o unrhyw faterion a all effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
RHEOLAETH A DATBLYGIAD STAFF
•Sicrhau fod goruchwyliaeth a datblygiad staff yn bodoli yn unol â polisiau a chanllawiau’r Cyngor ac fod pob aelod staff yn cael eu werthuso’n flynyddol.
•Sicrhau fod staff wedi derbyn cyflwyniad ffurfiol fydd yn cynnwys hyfforddiant perthnasol a’u bod yn cael eu cynghori a’u harwain i weithio mewn modd sydd yn parchu pob defnyddiwr fel unigolyn ac yn creu awyrgylch gartrefol a chroesawgar oddi fewn y cartref.
•Sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o’r safon uchaf posibl. Rheoli a monitro materion yn ymwneud a salwch, disgyblaeth a cwynion a all effeithio ar safon y gwasanaeth a ddarperir.
•Mynychu hyfforddiant sydd am hyrwyddo datblygiad personol y rheolwr cynorthwyol.
•Mewn cydweithrediad gyda Rheolwr y cartref cymeryd rhan flaenllaw yn y broses o benodi staff i’r cartref.
SAFONAU GOFAL
•Cydweithredu gyda archwylwyr ASGC ac ymateb a gweithredu ar eu hargymhellion o fewn yr amser penodedig.
•Sicrhau fod anghenion y defnyddwyr yn cael eu cyfarfod yn unol ar hyn sydd yng Nghynllun y Defnyddiwr ac fod y cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
•Hybu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth un a’i fel unigolion neu fel grŵp o ddefnyddwyr.
•Sicrhau fod perthnasau a chyfeillion y defnyddwyr yn rhan o’r broses cynllunio gwasanaeth os yw hyn yn ddymuniad y defnyddiwr.
•Sicrhau fod anghenion iechyd y defnyddwyr yn cael eu hasesu ac fod darpariaeth ar gael i gyfarfod eu anghenion iechyd.
•Sefydlu a cynnal trefn o weinyddu a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi’r gwasanaeth ac mewn cydweithrediad a’r fferyllfa lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol.
•Cydweithio a meithrin perthynas gyda meddygon lleol, nyrsys cymunedol a staff meddygol eraill er mwyn sicrhau fod rhaglenni iechyd perthnasol ar gael i’r defnyddwyr.
•Sicrhau fod y safonau diogelwch uchaf yn cael eu cynnal ar bob achlysur ar gyfer defnyddwyr, staff ac ymwelwyr i’r cartref. Pan fod risg o berygl yn ymddangos fod asesiad risg yn cael ei gwblhau, ei weithredu a’i adolygu fel bo’r angen.
•Cofrestru gyda’r Cyngor Gofal yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
CYFFREDINOL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-