Swyddi ar lein
Uwch Athro / Athrawes Arbenigol SIY
£27,491 - £42,333 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22703
- Teitl swydd:
- Uwch Athro / Athrawes Arbenigol SIY
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
- Dyddiad cau:
- 23/06/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £27,491 - £42,333 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
ADDYSG
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2022 (neu cyn gynted â phosib wedi hynny).Uwch Athro/awes Arbenigol Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon ymroddedig a brwdfrydig sy’n barod i arwain y Tîm Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) ar draws Awdurdodau Lleol Gwynedd a Ynys Môn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â dyletswyddau dysgu a chefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 18 oed sydd wedi dod o dramor gan gynnwys o leiafrifoedd ethnig yn cynnwys sipsi, Roma, teithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Bydd hefyd gyda rôl hanfodol i arwain y ddarpariaeth o gymorth i ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar tîm cysylltiedig. Bydd profiad diweddar o addysgu disgyblion SIY mewn ysgolion cynradd ac Uwchradd yn allweddol. Dymunwn ymgeiswyr sydd a phrofiad o ddarparu cefnogaeth cynghorol i staff ysgolion, dealltwriaeth manwl am sut mae ffactorau ieithyddol, gwybyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn effeithio ar ddysgu ail iaith a dealltwriaeth drylwyr o’r dulliau addysgol Saesneg fel iaith ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd.Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£27,491 - £42,333) y flwyddyn ynghyd a lwfans anghenion addysgol arbennig (£2,310 - £4,558) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r adran yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Helen Wharton, Uwch Athrawes Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar rif ffôn 01286 679007.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B , DYDD IAU, 23 MEHEFIN, 2022.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn y swydd.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Uwch Athro/awes Saesneg fel Iaith Ychwanegol gyda Gwasanaeth Cefnogi Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAS)
Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod plant a pobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion i gefnogi disgyblion sy’n dysgu SIY.
Cefnogi ysgolion trwy’r Awdurdod i wella cyrhaeddiad a cyflawniad disgyblion ystod oedran 3 – 16 oed o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig y rheini sy’n dysgu SIY.
Sicrhau gweithrediad yn y maes SIY drwy’r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth, drwy:
gydlynnu gwaith y Gwasanaeth Cefnogi Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig
arwain y Gwasanaeth Cefnogi Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig
dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Cydlynu’r adnoddau a gweithrediad dydd i ddydd y tîm.
Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Cynhwysiad gyda’r dyletswyddau rheoli llinell ar gyfer yr Athrawon Arbenigol a Cymorthyddion Arbenigol o fewn y Tîm.
Cyfrifoldeb am gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, disgyblion a rhieni
Gliniadur a ffôn symudol
Prif Ddyletswyddau. .
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Cyfrifoldebau arwain:
• Cydlynu gwaith y Gwasanaeth Cefnogi Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.
• Cydlynu gwybodaeth mewn paratoad at y Fforwm SIY.
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm SIY.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Fforwm SIY.
• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes SIY.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion sy’n dysgu SIY.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r awyrgylch cyfathrebu gyfeillgar o fewn yr ysgol.
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion yn y maes SIY.
• Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion disgyblion sy’n dysgu SIY.
Prif Ddyletswyddau. .
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion.
• Cyd weithio ag athrawon arbenigol eraill.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu’n gyson yn ein hysgolion.
• Diweddaru bas data o’r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth.
• Cydlynu a chadeirio cyfarfod tîm ar ôl ysgol.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy’n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Cefnogi Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.
• Cyfrifoldeb am lunio Cynllun Busnes y Gwasanaeth ac adrodd yn dymhorol yn unol â threfniadau Rheoli Perfformiad yr Awdurdod.
Gweithgareddau a Chyfrifoldebau Allweddol:
• Arwain cefnogaeth benodol wedi ei dargedu ar gyfer disgyblion SIY mewn partneriaeth â staff prif lif.
• Darparu/cyd-gordio cefnogaeth iaith sy’n benodol i anghenion y cwricwlwm Cynradd a’r Uwchradd.
• Addysgu mewn partneriaeth mewn ystafelloedd dosbarth prif lif a dysgu grwpiau eithrio ble bo’n briodol.
• Cynllunio gwersi’n effeithiol er mwyn cwrdd ag anghenion dysgu disgyblion, yn enwedig y rheini sy’n dysgu SIY, gan ddefnyddio ystod o strategaethau priodol.
• Cydweithio â staff arbenigol eraill i ddatblygu a threialu arfer effeithiol.
• Datblygu adnoddau i gefnogi dysgu ac addysgu effeithiol ar gyfer dysgwyr SIY a’u dosbarthu’n briodol i staff.
• Hyrwyddo a lledaenu negeseuon allweddol ynghylch addysgu a dysgu effeithiol ar gyfer dysgwyr dwyieithog.
• Cynorthwyo i ddarparu DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) ar gyfer athrawon prif lif, myfyrwyr HDC (Hyfforddiant Dysgu Cychwynnol) a ANG (Athro/awes Newydd Gymhwyso).
• Cynorthwyo’r ysgol mewn anwytho disgyblion newydd sy’n cyrraedd ar ôl dechrau’r flwyddyn ysgol a datblygu rhaglenni anwytho tymor byr i gwrdd ag anghenion myfyrwyr unigol.
• Asesu anghenion myfyrwyr sydd newydd gyrraedd a chysylltu ag aelodau perthnasol o’r staff ynghylch cefnogaeth briodol yn yr ysgol.
• Asesu myfyrwyr sy’n cael eu targedu er mwyn adnabod anghenion a monitro cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys gweinyddu asesiadau i ddyrannu cyfnod o gaffael SIY yn unol â model 5 cam LlC o gaffael Saesneg.
• Hybu amrywiaeth diwylliannol, cydraddoldeb hiliol a chynhwysiad yn y dosbarth ac ar lefel ysgol gyfan, herio hiliaeth a hyrwyddo defnyddio’r iaith gyntaf, ble bo’n briodol, mewn gweithgareddau ac adnoddau.
• Cydweithio â thimau bugeiliol a chwrdd â rhieni a chynnal cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol. Annog cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol lleol.
• Cysylltu gyda staff o’r Canolfannau Iaith Cymraeg i drefnu asesiadau, gosod targedau a chael cefnogaeth briodol ar gyfer disgyblion gyda CIY neu SIY ar draws yr awdurdodau.
• Rhoi adborth fel bo angen ynghylch cyrhaeddiad disgyblion, cynnydd a materion eraill, a sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael. Rhoi adborth i’r staff SIY eraill, athrawon prif lif, CGAAA, Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, SALT ac / neu asiantaethau eraill.
Safonau a Sicrwydd Ansawdd
• Cefnogi amcanion ac ethos y gwasanaeth.
• Mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiadau gyda’r nos fel bo’n briodol e.e. Nosweithiau Rhieni, Dyddiau Agored, ayb.
• Mynychu EMAS, cyfarfodydd ysgol, tîm a staff fel bo angen.
• Ymrwymiad at ddatblygiad personol a phroffesiynol.
• Cynnal cyfrinachedd ac ymateb gyda sensitifrwydd i sefyllfaoedd teuluoedd.
Cyfrifoldebau eraill
• Cyfrifol am CPD a meddu ar wybodaeth drylwyr a’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr arbenigedd a defnyddio’r canlyniadau i wella addysgu a dysgu disgyblion.
• Cymryd rhan yn rhaglen rheoli perfformiad yr Awdurdod.
• Gweithio fel aelod o dîm, cyfrannu tuag at berthynas weithiol effeithiol o fewn ysgolion ac o fewn y gwasanaeth.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
Prif Ddyletswyddau. .Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.