PWRPAS Y SWYDD
Cymorth technegol a gweinyddol cytundeb Arlwyaeth a Glanhau Ysgolion. Dadansoddi ac addasu bwydlenni a rysetiau ysgolion drwy ddefnyddio meddalwedd SAFFRON er mwyn cydymffurfio a safonau “ Mesur Bwyd” Llywodraeth Cymru. Asesu safon cyffredinol gwasanaeth arlwyo, hyfforddi’r staff, trefnu sesiynau blasu, ddyddiau thêm a bod yn rhan o grwpiau ‘ SNAG’ Ysgolion.
Diweddaru dogfennau e.e llawlyfr y gegin, rysetiau a glanhau a.y.y.b
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
Meddalwedd ‘ SAFFRON’
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
• Cymorth technegol a gweinyddol ar gyfer cytundebau arlwyaeth a glanhau ysgolion.
• Cyd weithio gyda Rheolwyr Contract er mwyn sicrhau bod safon cyfredol gwasanaeth arlwyo a’r bwyd sydd ar gael yn yr holl Ysgolion yn cyd-fynd yn llwyr â’r safonau sydd wedi ei gosod yn ‘Mesur Bwyd’ Llywodraeth Cymru. Argymell cynllun gweithredu er mwyn cyrraedd y safon yn ôl yr angen.
• Creu bwydlen newydd blynyddol ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Arbennig – treialu rysetiau a chynnyrch newydd,casglu a dadansoddi sylwadau cogyddion, cwblhau dadansoddiad maeth o’r fwydlen gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r safonau bwyd a maeth a’r rheoliadau bwyta’n iach mewn Ysgolion. Creu poster o’r fwydlen er mwyn ei anfon at ysgolion, rhieni ac ar wefan y Cyngor.Creu pecyn bwydlen ir cogyddion- copi bwydlen, rhestr cynhwysion,cylch prodin, rysetiau newydd a gwybodaeth alergenau y prydau
• Dadansoddi maeth bwydlenni 4 wythnos a rysetiau unigol yr 11 Ysgol Uwchradd drwy ddefnyddio meddalwedd SAFFRON gan gymryd sylw priodol o’r maint, lefel maeth a chost y pryd . Creu dadansoddiad o’r 11 ysgol gyda’i gilydd er mwyn cael canlyniad sirol . Dadansoddi’r canlyniadau er mwyn addasu ryseitiau i gynyddu neu leihau maetholion.
• Trefnu cyfarfodydd Cogyddion Uwchradd, Rheolwyr a Swyddogion i drafod y fwydlen, cyflenwyr ac unrhyw hyfforddiant berthnasol a.y.b. Creu pecyn bwydlen ir cogyddion- copi bwydlen, rhestr cynhwysion,rhestr cynnigion egwyl bore,cylch prodin, rysetiau newydd a gwybodaeth alergenau y prydau . Creu system lliw i ddangos cydymffurfiaeth a’r safonau bwyd.
• Cynnig cymorth i’r 3 ysgol sydd wedi optio allan o’r gwasanaeth sirol i gwblhau dadansoddiad maeth o’u bwydlen a cynnig adborth
• Cyfrannu tuag at y cynllun i uwchafu niferoedd sydd yn bwyta yn yr ysgolion cynradd sydd gyda cyfartaledd isel yn bwyta cinio ysgol er mwyn hybu cinio ysgol fel y dewis gorau ar gyfer iechyd plant i’r dyfodol.
• Hyfforddi cogyddesau sydd angen cymorth ychwanegol i fagu hyder yn ei gallu coginio yn unol a safon y gytundeb arlwyo ysgolion
• Cefnogaeth i Gogyddesau ac Ysgolion i drefnu sesiynau blasu drwy drefnu arddangosfa yn y ffreutyr- copi bwydlen gyfredol, tystysgrif cydymffurfio ,dadansoddiad maeth y fwydlen, lluniau prydau ar y fwydlen, taflen gweithgareddau disgyblion ac arddangos cynnyrch ffres f ffrwythau, llysiau a prydau i flasu.Creu taflenni gweithgareddau newydd ar gyfer disgyblion gyda’r themau ‘ Ein ffrindiau’r ffrwythau a llysiau’
• Cyfrannu a bod yn aelod o grwpiau ‘SNAG’ Ysgolion yn ôl y galw.
• Creu bwydlen bwrpasol i’r dyddiau them, addasu rysetiau a threfnu addurniadau i’r ysgol er mwyn hyrwyddo cinio ysgol.
• Marchnata a hyrwyddo cinio ysgol drwy lunio posteri, ‘Pop Up’a paratoi gwybodaeth ar gyfer newyddion y cyngor
• Paratoi holiaduron ar gyfer staff y gwasanaeth, grwpiau snag / maeth, Cyngor Ysgol, athrawon, disgyblion a rhieni ac yna dadansoddi’r canlyniadau ac i baratoi taflenni gwybodaeth yn ôl yr angen ar gyfer disgyblion, athrawon a rhieni.
• Cysylltu gyda chyflenwyr i drafod bwydydd newydd, lefel maeth y bwyd, safon y bwyd a cost
• Bod yn rhan o’r broses dewis cytundebau bwyd newydd, rhan o’r broses blasu bwyd a sgorio’r cynnyrch newydd .
• Diweddaru’r bwydlenni â ryseitiau, cost y rysetiau a’r fwydlen a treialu rysetiau newydd yn yr ysgolion er mwyn cael adborth staff a disgyblion.
• Cyfrifoldeb am y gytundeb cynwysyddion tafladwy, ffilteri olew a labeli brechdanau ar gyfer Ysgolion Uwchradd.
• Casglu gwybodaeth am droswisgoedd derbyniodd staff yn ystod y flwyddyn gyllidol er mwyn adrodd ar fuddiant trethadwy
• Cyfrifoldeb am bas data’r gwasanaeth Arlwyaeth a Glanhau- Troswisg,Digwyddiadau, Profion Trydanol, Monitro, Hyfforddiant,Offer, Archwiliadau Hylendid Bwyd, Glanhau Canopies.
• Diweddaru holl ddogfennau gwasanaeth arlwyaeth a glanhau yn ôl yr angen e.e llawlyfr y gegin a’r llawlyfr glanhau, asseiadau risg generic a ffeiliau diogelwch, ffurflenni a llyfrau archebu bwyd a nwyddau glanhau a.y.y.b.
• Paratoi newyddlen tymhorol ar gyfer staff arlwyaeth a glanhau .
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth a rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd a lefel cyflog â lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.)
Bydd angen ymweld a chegin ysgol o bryd iw gilydd, mynchu cyfarfodydd rhanbarthol ac i ymweld â chyflenwyr.