Swyddi ar lein
Swyddog Desg Wasanaeth Technoleg Gwybodaeth Ysgolion
£20,444 - £24,920 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22495
- Teitl swydd:
- Swyddog Desg Wasanaeth Technoleg Gwybodaeth Ysgolion
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid
- Dyddiad cau:
- 26/05/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £20,444 - £24,920 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cyflog: Graddfa GS4 - S1 (Hicyn 7 hyd at 17) - £20,444 hyd at £24,920 y flwyddyn
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenan Pritchard ar 01286 679627
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 26 MAI, 2022.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Y gallu i feithrin sgiliau newydd i gyd-fynd a byd digidol sy’n newid yn barhaus
Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm
Personoliaeth cwrtais ac agos atoch ac yn amyneddgar pan yn delio a phobl
Y gallu i wrando, dadansoddi a gweithredu ar y wybodaeth a dderbynnir
Bod yn barod i fentro ac yn arloesol, gan adnabod ffiniau ble gellir gwireddu hyn
Yn drefnus, gan arddangos rhinweddau i weinyddu’n effeithiol
Yn hyderus tra’n trafod gyda phobol; ar y ffôn, e-bost, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Addysg i lefel A neu cyfwerth (NVQ/BTEC).
Dymunol
Yn raddedig mewn disgyblaeth TG neu debyg
Cymwysterau cyfredol o faes digidol megis rhai Microsoft, Google, Apple, Cisco ayb
Trwydded yrru cyfredol.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Yn hyderus yn eu defnydd o systemau cyfrifiadurol, meddalwedd a/neu caledwedd.
Dymunol
Profiad o gefnogi systemau TG
Profiad o’r sector addysg
Profiad o ddelio a chwsmeriaid.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cofnodi cadarn
Medru datrys problemau yn rhesymegol
Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
Gallu defnyddio'r we ar gyfer datrys problemau.
Dymunol
Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes
Gwybodaeth o gynnyrch a systemau gweinyddu Microsoft
Yn medru datrys ymholiadau’r defnyddwyr am rai cymwysiadau
Gwybodaeth o’r model ITIL
Gwybodaeth o safonau perthnasol e.e. BS7799.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Aelod o Ddesg Wasanaeth TG Ysgolion Gwynedd
•Pwynt cyswllt cyntaf y gwasanaeth dros y ffôn, e-bost, hunan wasanaeth, rhithiol neu wyneb yn wyneb
•Cyfrifol am dderbyn, ymateb, datrys ac esgoli ceisiadau am gymorth technoleg
•Cofnodi, diweddaru a pherchnogi digwyddiadau sydd wedi eu dyrchafu i’r Ddesg Wasanaeth
•Cynghori athrawon neu staff ategol ysgolion ar ddefnydd ac/neu newidiadau i gyfarpar a systemau digidol a ddefnyddia’r ysgol
•Meddu a’r sgiliau ac arbenigedd angenrheidiol i ddadansoddi problem a’u datrys ble bo hynny’n bosib
•Parhau fel pwynt cyswllt y cwsmer gan hwyluso datrysiad i’r broblem gan arbenigwyr eraill yn y gwasanaeth pe nad oes modd ei ddatrys fel rhan o’r cyswllt cyntaf
•Drwy weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd gwella’r gwasanaeth drwy ddefnydd o dechnoleg.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Bod yn barod i gynghori eraill neu hyfforddi aelodau eraill o’r tîm am eitemau technegol.
Cyllid:
•Bod a mewnbwn i waith adolygu prosesau er mwyn canfod ffordd o weithio’n fwy cost-effeithiol.
Data/Offer/Meddalwedd:
•Bod yn ymwybodol o’r safonau a amlygir yn Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd
•Rhoi cefnogaeth cyswllt cyntaf ar gyfer pob agwedd o ddarpariaeth digidol sy’n hanfodol i waith beunyddiol yr ysgolion; gan ddadansoddi problemau, eu datrys neu eu hosgoi
•Yn achlysurol, gall sefyllfa godi ble bydd angen ymweld a’r broblem yn uniongyrchol ar safle yn yr ysgol
•Gall gyfrannu at waith ffurfweddu cyfarpar pan fo hynny’n briodol gan arwain at ychydig o waith corfforol
•Gall fod yn cysylltu’n rhagweithiol â’r ysgolion i’w hysbysu o newidiadau ac/neu broblemau
•Gall gysylltu gyda chyflenwyr allanol i ddatrys materion
•Arwain drwy esiampl drwy lynu at safonau diogelwch seibr ym mhob agwedd o’r swydd.
Prif ddyletswyddau
Gwneud Penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Ymchwilio i ddatblygiadau newydd yn y maes o ddarpariaethau digidol i ysgolion fel rhan o ddysgu parhaus gan gynghori’r Rheolwr Gwasanaethau Digidol a’r darganfyddiadau
•Mynychu hyfforddiant sydd wedi ei drefnu gan yr uned a cyfrannu mewn sgyrsiau sy’n mesur anghenion hyfforddiant y gwasanaeth, gall yr hyfforddiant fod yn ddigwyddiad rhithiol, mewnol neu allanol
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun
•Rhoi cymorth technegol mewn meysydd penodol i eraill yn y tîm
•Gall fod a mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch
•Gall fod a mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu cofnodi
•Gwneud penderfyniadau ar y ffordd gorau i ddatrys materion a all gael effaith ar nifer o ddefnyddwyr
•Gall gyfrannu at weithdrefnau mesur perfformiad drwy baratoi data ac ystadegau rheolaethol ar gyfer eu cyflwyno’n fewnol yn y Gwasanaeth TG, neu ar gyfer adroddiadau ehangach.
Cyfathrebu:
•Ymdrin â nifer fawr o alwadau, yn aml iawn dan bwysau mawr i ddelio gyda galwadau sy’n rhoi gwybod am faterion sy’n rhwystro nifer fawr o ddefnyddwyr rhag gwneud eu gwaith
•Angen medru ymdrin yn gydymdeimladol a defnyddwyr sy’n cysylltu i adrodd am broblem neu fethiant
•Rheoli disgwyliadau cwsmeriaid
•Rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf yn gryno ac yn ffeithiol i ddefnyddwyr ar statws eu problem
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ar draws yr ysgolion, gan gynnwys Penaethiaid
•Sylw trwyadl i reoli’r galwadau oddi fewn i’r system rheoli digwyddiadau
•Dadansoddi problemau yn drwyadl
•Yn deall y broblem a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn ei datrys neu ei gyfeirio i’r man cywir fel bod modd ei ddatrys
•Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr.
Arall:
•Yn medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd
•Yn medru defnyddio offer a thechnegau cydnabyddedig
•Yn medru datrys tasgau safonol ond yn meddu ar sgiliau a gwybodaeth eang i ddadansoddi a datrys problemau nad ydynt yn rhai safonol
•Yn ddefnyddiwr hyderus o ystod eang o systemau cyfrifiadurol ac yn chwim i ddysgu am systemau newydd
•Y gallu i redeg adroddiadau syml o systemau safonol e.e. creu ymholiad syml mewn SQL
•Yn medru gweithio ar sawl tasg yr un pryd
•Yn medru dadansoddi tueddiadau ac adnabod problemau sy’n codi dro ar ôl tro
•Cyfrifol am adnabod risgiau a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt, neu eu dyrchafu ar gyfer sylw pellach
•Arwain drwy esiampl drwy weithredu oddi fewn i bolisïau Seibr Ddiogelwch y Cyngor a dyrchafu unrhyw ddigwyddiad neu wendid seibr drwy sianelau adrodd y Gwasanaeth TG ar ei union.
Cyffredinol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.