YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 495 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer Mehefin 6, 2022 neu cyn gynted a phosib wedi hynny
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 (Rhan Amser)
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Mae hwn yn gyfle da i unigolyn gael profiad o weithio mewn amgylchedd ysgol uwchradd.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig a gweithgar i gyfrannu at waith yr ysgol. Prif bwrpas y swydd yw cefnogi disgyblion yn eu gwersi ac ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5-6 (£13,716 - £13,991 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Guto Wyn.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w gael gan Miss Anwen Bumby, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Môr, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU. (Rhif ffôn: (01758-701244); E-bost: anwen.bumby@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DYDD MAWRTH, Mai 3, 2022.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
(The above is an advertisement for the post of a part-time Learning Support Assistant Level 2 at Ysgol Glan y Mor, Pwllheli for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service disclosure and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.