Swyddi ar lein
Cymhorthydd Llyfrgell a Gwybodaeth Rhan Amser
£9,908 - £10,106 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 21-22103
- Teitl swydd:
- Cymhorthydd Llyfrgell a Gwybodaeth Rhan Amser
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Llyfrgelloedd
- Dyddiad cau:
- 03/03/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 19.75 Awr
- Cyflog:
- £9,908 - £10,106 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS2
- Lleoliad(au):
- Llyfrgell Tywyn
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y
[Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gethin Wynne Jones ar 01341 422771
Cynnal cyfweliadau Dydd Gwener 11/03/2022.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 03/03/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu i gyfathrebu'n groesawgar ac effeithiol gyda'r cyhoedd
Mwynhau gweithio gyda phob math o ddefnyddwyr, yn cynnwys plant a phobl ifanc a’u teuluoedd
Sensitif tuag at anghenion amrywiol gwahanol ddefnyddwyr
Ymrwymiad at ddatblygiad personol a phroffesiynol
Gallu i weithio oriau wedi’u hamserlennuDYMUNOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon Addysg Dda hyd at TGAU - TGAU (A*-C) mewn Mathemateg, Cymraeg a/neu Saesneg
Cymhwyster mewn Technoleg GwybodaethDYMUNOL
Hyfforddiant mewn Gofal CwsmerPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Gweithio gyda’r cyhoedd a/neu gynorthwyo defnyddwyr gwasanaethDYMUNOL
Profiad blaenorol o weithio mewn Llyfrgell neu sefydliad tebygSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu arddangos sgiliau llythrennedd a rhifedd da
Gallu arddangos sgiliau TG da
Sgiliau cyfathrebu cryf
Gwybodaeth am lyfrau/maes llenyddolDYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOLHANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
2 Pwrpas y Swydd.
Cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus effeithiol gan gynnwys darpariaeth i oedolion, plant a phobl ifanc , yn unigol ac mewn grwpiau, ac yn cynnwys y tasgau gweinyddol i gefnogi’r gwasanaeth i ddefnyddwyr.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff: staff wrth gefn / dros dro yn achlysurol Stoc; cyflwr stoc oedolion a phlant Offer: defnydd diogel o ddodrefn , offer cyfrifiadurol ayb Arian: Cadw cyfrifon syml’imprest’ a bancio arian. Anfonebu yn ôl yr angen
Prif Ddyletswyddau. .
1. Rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth mae’r gwasanaeth yn ei wneud.
2. Benthyg adnoddau, casglu dirwyon a thaliadau eraill yn ymwneud a benthyg adnoddau llyfrgell
3. Cadw adnoddau ar y silffoedd a chadw’r llyfrgell mewn cyflwr trefnus a thaclus.
4. Cynorthwyo defnyddwyr gyda gosod ceisiadau, hysbysu defnyddwyr bod ceisiadau wedi cyrraedd, prosesu ceisiadau. Chwilio am eitemau ar gais a phrosesu eitemau.
5. Cofrestru defnyddwyr newydd a diweddaru cofnodion aelodau llyfrgell.
6. Cadw cyfrif syml am nifer mynychwyr i ddigwyddiadau llyfrgell.
7. Cynorthwyo defnyddwyr gyda mynediad i Gyfrifiaduron Cyhoeddus, defnyddio sganiwr, llungopïwr neu adnoddau eraill cyhoeddus sydd ar gael yn y llyfrgell
8. Ateb ymholiadau trwy gyfrwng ffon neu e-bost a chyfeirio ymholiadau a galwadau i aelodau eraill o staff a/neu gymryd negeseuon.9. Cynorthwyo gyda threfnu arddangosfeydd llyfrau a chynnal hysbysfyrddau cyfredol.
10. Asesu cyflwr stoc llyfrgell a gyrru eitemau blêr, wedi dyddio, gwallus neu angen eu trwsio yn ôl.
11. Cadw a threfnu cylchgronau a phapurau newydd cyfredol yn y llyfrgell
12. Cylchdroi stoc addas rhwng mannau gwasanaeth yn ôl yr amserlen.
13. Cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau Llyfrgelloedd Gwynedd yn cynnwys gwasanaethau digidol, Gwasanaethau Cyngor Gwynedd ac ateb ymholiadau defnyddwyr am wybodaeth gyffredinol.
14. Llogi ystafelloedd i unigolion neu grwpiau. Cymryd enwau ar gyfer gweithgareddau llyfrgell a chadw rhestr wrth gefn. Cysylltu â defnyddwyr i gadarnhau neu ganslo digwyddiadau.
15. Cau ac agor y llyfrgell a gosod larwm diogelwch yn absenoldeb y gofalwr neu’r staff mewn gofal yn ôl y galw.
16. Mynychu cyfarfodydd staff a hyfforddiant yn ôl yr angen a’r cyfarwyddyd.17. Delio gydag ystod eang o ddefnyddwyr llyfrgell yn cynnwys defnyddwyr a all fod yn heriol neu anodd.
18. Cynorthwyo gydag arolygon a holiaduron defnyddwyr yn ôl y galw.
19. Adrodd am broblemau TG
20. Cael y cyfle i gymryd rhan a chefnogi amseroedd stori os dymunir a chefnogi digwyddiadau a gynhelir i’r cyhoedd yn y llyfrgell.
21.Mynychu sesiynau hyfforddiant a hunan ddatblygiad personol yn ôl yr angen a’r cyfarwyddid.
22.Mynychu timau a gweithgorau eraill y Gwasanaeth Llyfrgell, yr Adran, neu weithgorau ar y cyd gyda gwasanaethau /asiantaethau allanol fel bo angen.
23.Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf ‘Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974’ a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor gan nodi fod hyn yn gyfrifoldeb ar bob aelod o staff wrth gyflawni eu dyletswyddau i ddefnyddwyr ac ymwelwyr.
24.Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad a datblygiad staff y mae ganddo/ganddi gyfrifoldeb amdano a chyfrannu at raglen hyfforddi'r Gwasanaeth Llyfrgell.
25. Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
26. Cydymffurfio a pholisi a chanllawiau Diogelu Plant ac Oedolion Bregus Cyngor Gwynedd gan gymryd mai cyfrifoldeb pob unigolyn a gyflogir yw bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau sy’n ymwneud a materion diogelu plant ac oedolion bregus.
27.Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
28.Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
29.Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol, sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Bydd rai o’r oriau gwaith yn syrthio yn rheolaidd ar Sadyrnau yn unol â rota staff y Llyfrgell.
Oriau Gwaith: 19.75 awr yr wythnos (dros rota pythefnos) gyda’r posibilrwydd o oriau ychwanegol yn ôl y galw . Delir yr hawl i newid patrwm oriau gweithio yn ôl gofynion y Gwasanaeth. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gymhwyso i’r lefel briodol yng nghyswllt defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Darperir hyfforddiant yn ôl yr angen.
Y prif safle gwaith fydd Llyfrgell Tywyn ond os bydd angen, gellir dod i drefniant dros dro ple bydd deilydd y swydd yn cyflawni dyletswyddau tebyg mewn llyfrgelloedd eraill ,a hynny o fewn ei oriau cytundebol, heb unrhyw amser neu dal ychwanegol am y gwaith hwnnw ac eithrio costau teithio.
ROTA
Wythnos 1Bore Pnawn Nifer oriau gweithio
Dydd Llun 0
Dydd Mawrth 10.00 - 1.00 2.00 – 5.00 6
Dydd Mercher Ar Gau Ar Gau 0
Dydd Iau 9.45 – 1.00 2.00 - 5.00 6 .25
Dydd Gwener 1 0.00 – 1.00 2.00 - 5.00 6
Dydd Sadwrn
18.25Wythnos 1
Bore Pnawn Nifer Oriau Gweithio
Dydd Llun 0
Dydd Mawrth 10.00 – 1.00 2.00 -5.00 6
Dydd Mercher Ar Gau Ar Gau 0
Dydd Iau 9.45-1.00 2.00-5.00 6.25
Dydd Gwener 10.00 – 1.00 2.00 - 5.00 6
Dydd Sadwrn 9.30 - 12.30 3
21.25
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.