Rwy'n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall dogfen ganllawiau'r Gronfa Cyfyngiadau (Grant Dewisol).
Rwy’n cadarnhau bod fy musnes yn gweithredu yng Nghymru.
Os dyfernir grant dewisol i mi, rwy'n cadarnhau nad yw cyfanswm y grant cymorth COVID-19 a dderbyniwyd (e.e. grantiau dewisol blaenorol) yn fwy nag 80% o'm trosiant busnes ar gyfer blwyddyn fasnachu nodweddiadol.
Rwy’n cadarnhau roedd fy musnes wrthi'n masnachu ac yn creu refeniw gwerthiant hyd at 6pm ar 4 Rhagfyr 2020 ar gyfer busnesau lletygarwch neu 19 Rhagfyr 2020 ar gyfer busnesau eraill.
Rwy’n cydnabod y bydd fy Awdurdod Lleol neu Lywodraeth Cymru yn ymgymryd ag unrhyw wiriadau busnes priodol a ystyrir yn angenrheidiol i asesu’r cais ac i wirio natur, defnydd ac effaith y cyllid yn y dyfodol.
Rwy’n cadarnhau nad wyf wedi derbyn, neu yn gwneud cais am, y Grant Ardrethi Annomestig y Cronfeydd Cyfyngiadau.
Nid wyf yn gymwys am daliad pellach drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr llawrydd.
Nid wyf wedi derbyn taliad drwy rhaglen Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru
Rwy’n cadarnhau mai'r busnes hwn yw fy mhrif ffynhonnell incwm (>50%).
Ar gyfer cwmnïau cyfyngedig yn unig – rwy'n cadarnhau bod gan fy musnes drosiant blynyddol rhwng £10,000 a £50,000 ar gyfer y flwyddyn masnachu llawn olaf cyn COVID-19 (cyn Mawrth 2020).
Ar gyfer unig fasnachwyr / partneriaethau yn unig – rwy'n cadarnhau bod gan fy musnes drosiant blynyddol llai nag £85,000 ar gyfer y flwyddyn masnachu llawn olaf cyn COVID-19 (cyn Mawrth 2020).
Rwy’n cadarnhau y byddaf yn darparu’r holl dystiolaeth ofynnol i gefnogi fy nghais am Grant Dewisol Cronfeydd Busnes y Cyfyngiadau yn unol â’r gofyn.
Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall datganiad preifatrwydd Grant Dewisol y Cronfeydd Busnes Cyfyngiadau.
Rwyf yn derbyn bydd yn rhaid ail-dalu unrhyw daliad sydd yn cael ei brofi i fod yn anghymwys.
Rwy’n datgan bod y wybodaeth sydd wedi’i darparu yn y cais hwn yn wir ac yn gywir.