Diben y cynllun grant yw cefnogi busnesau gyda'u llif arian uniongyrchol a'u helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 sydd eu hangen i reoli lledaeniad Covid-19
Bwriedir i'r cyllid ymdrin ag effaith busnes o 13 Rhagfyr 2021 hyd at 14 Chwfror 2022
i) Grant A:
Taliad grant ariannol o £2,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden neu fusnesau cadwyn gyflenwi sy'n cyflenwi'r sector hwn gyda gostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant dros y cyfnod cyllido, gyda hereditamentau cymwys Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000
Dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant
ii) Grant B:
Taliad grant ariannol o £4,000 ar fyfer busnesau lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden neu fusnesau cadwyn gyflenwi sy'n cyflenwi'r sector hwn gyda gostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant dros y cyfnod cyllido, sydd â gweth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000
iii) Grant C:
Taliad grant ariannol o £6,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden neu fusnesau cadwyn gyflenwi sy'n cyflenwi'r sector hwn gyda gostyngiad o gwy na 40% mewn trosiant dros y cyfnod cyllido, sy'n meddiannu hereditamentau gyda gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000
Ar gyfer pob busnes, rhaid bod eu hereditament wedi bod ar restr ardrethu'r NDR ar 1 Medi 2021 ac mae angen i'r trethdalwr fod wedi bod yn meddiannu'r eiddo ar 30 Tachwedd 2021
Plîs darllenwch y canllawiau llawn