skip to main content

Ymaelodi â'r llyfrgell

Gallwch wneud cais i ymuno â'r llyfrgell drwy lenwi'r ffurflen hon. Caiff eich cerdyn llyfrgell ei anfon atoch drwy'r post. Os nad ydych yn ei dderbyn o fewn 5 diwrnod gwaith, e-bostiwch llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru Mae angen 1 ddogfen sy’n profi eich enw a’ch cyfeiriad (e.e. bil treth cyngor / trydan / nwy / ffôn, trwydded yrru). Gallwch anfon copi o’r ddogfen gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ni fyddwn yn cadw copi o’r ddogfen, dim ond yn cofnodi ein bod wedi gweld y ddogfen. Os nad ydych yn gallu anfon copi o’r ddogfen gyda’r ffurflen hon, y tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r llyfrgell ar ôl derbyn eich cerdyn, bydd angen i chi fynd â’r ddogfen gyda chi. Os ydych dan 16 mlwydd oed byddwch yn derbyn ffurflen caniatâd ar gyfer defnyddio'r we. Rhaid i warchodwr arwyddo'r ffurflen a dylech ddod â hi gyda chi y tro cyntaf y byddwch yn ymweld â'r llyfrgell.
*
*
*
*
*
Rhoddir y cerdyn yn unol ag Is-Ddeddfau Llyfrgell Cyngor Gwynedd, ac nid yw’n drosglwyddadwy. Mae’r deilydd yn gyfrifol am bob eitem a fenthycir ar y cerdyn. Rhaid cyflwyno’r cerdyn bob tro wrth fenthyca llyfrau neu eitemau eraill neu ddefnyddio cyfrifiadur cyhoeddus. Os ydych yn colli cerdyn, rhaid dweud wrth y llyfrgell yn syth. Codir ffi am gerdyn yn ei le. Os ydych yn newid enw neu gyfeiriad, rhaid dweud wrth y Gwasanaeth Llyfrgell.
*

Atodi Dogfennau / Lluniau