Mae Cronfa Gwydnwch Busnes Gwynedd yn gynllun cefnogi busnesau Gwynedd adfer a datblygu, sefydlogi a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Y nod yw galluogi busnesau i gynyddu elw unai trwy arbedion neu gynyddu incwm. Mae Cronfa Gwydnwch Busnes Gwynedd yn cefnogi grantiau o £2,500 i £15,000 Amserlen: Rydym yn disgwyl i'r ddwy gronfa fod yn poblogaidd iawn a ni fyddem yn gallu cefnogi pob cais. Rhaid i bob prosiect fod wedi’i cwblhau a hawlio’n llawn o fewn 3 mis o dderbyn llythyr cynnig. Caiff grantiau eu dynodi ar sail cystadleuol. Byddem yn anelu i gadw at yr amserlen isod: Agor Rownd 1 – 01 Gorffennaf, 2025 Cau Rownd 1 – 15 Awst, 2025 Cyhoeddi canlyniadau Rownd 1 – Erbyn Medi 30, 2025 Agor Rownd 2 – 02 Medi, 2025 Cau Rownd 2 – 17 Hydref, 2025 Cyhoeddi Canlyniadau Rownd 2 – Erbyn 28 Tachwedd, 2025 Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, mi fydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn BwletinBusnes@Gwynedd
Dyma’r wybodaeth y bydd rhaid i chi ddarparu yn ychwanegol i’r ffurflen hon:
At ba ddibenion mae angen y grant? Cofiwch uwch lwytho eich Cynllun Prosiect hefyd ar wahân Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod angen yr arian grant arnoch h.y. heb y grant, ni fyddai modd gwneud yr hyn sy’n cael ei amlinellu yn eich cais:
Nodwch dyddiad cychwyn a gorffen eich prosiect – sylwch fod rhaid I'r holl waith fod wedi’i orffen a phobhawliad wedi’u cyflwyno o fewn 3 mis o dderbyn llythyr cynnig.
Darparwch ddadansoddiad o sut y bydd y grant yn cael ei ddefnyddio a rhowch fanylion dyfynbrisiau: (Mae’n rhaid atodi’r rhagamcanion / dyfynbrisiau gwreiddiol - o leiaf 3 ar gyfer bob eitem os yw’n £5,000 neu uwch ar gyfer bob cyflenwr.
Faint yn fwy o elw ydych chi’n ddisgwyl ei wneud dros y tair blynedd nesaf?
Faint o arbediad ydych chi’n ddisgwyl gwneud dros y tair blynedd nesaf?
Rhagamcan o drosiant blynyddol dros y dwy flynedd ariannol nesaf o ganlyniad i’r grant (i'r £1 agosach)
Os mai ‘Oes’ yw’r ateb, efallai y bydd angen i chi ddarparu copi o’r polisïau hyn.
Rwy’n ymrwymo i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn fy musnes. Byddaf yn gwneud hyn trwy ymgymryd a’r 3 gweithgaredd canlynol: Cofiwch y byddem yn monitro cynnydd yn erbyn pob weithgaredd ac mi fydd cynnydd boddhaol tuag at eu cyflawni yn amod swyddogol o dderbyn unrhyw grant.