skip to main content

Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau: Grantiau sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig – Mawrth 2021

Ffurflen Gofrestru/Ffurflen Gais


DIWEDDARIAD:
Mae’r Cronfeydd bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd. Mae ceisiadau sydd eisoes wedi eu cyflwyno yn parhau i gael eu hasesu.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau (yn bennaf yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu heb fod yn hanfodol) gyda chymorth llif arian a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 a estynnwyd gan y Prif Weinidog yn ei gyhoeddiad ar 12 Mawrth 2021. Mae grantiau pellach sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig ar gael erbyn hyn sy’n ceisio ategu mesurau ymateb i COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru. Ni allwch ac ni ddylech wneud cais am grant cronfa ddewisol awdurdod lleol os ydych yn gymwys i gael un o’r grantiau sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig hyn. i) Grant A: Taliad grant arian parod o £4,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig gan gynnwys rhai busnesau manwerthu sydd â hereditamentau cymwys i Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. ii) Grant B: Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a’r gadwyn gyflenwi gysylltiedig gan gynnwys rhai busnesau manwerthu sydd wedi’u lleoli mewn hereditamentau gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £500,000. Mae’r cynlluniau grant newydd sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar 15 Mawrth 2021. Byddant yn helpu busnesau sydd wedi dioddef yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws i dalu costau gweithredu sy’n dod o fewn blwyddyn ariannol 2020/21 hyd at 31 Mawrth 2021. Sylwer bod y cynlluniau grant blaenorol sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020 ac a estynnwyd wedyn wedi cau i ymgeiswyr newydd am 5pm ddydd Iau 11 Mawrth 2021. Os gwnaethoch gofrestru eich manylion a derbyn grant sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig ar gyfer y cynlluniau a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020 ac a estynnwyd wedyn, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach. Bydd eich awdurdod lleol yn prosesu eich taliad grant newydd. Os na wnaethoch gofrestru eich manylion na derbyn grant drwy’r cynlluniau a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr a’ch bod am wneud cais am un o’r grantiau newydd, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru fer hon. Bydd angen i fusnesau sydd angen cofrestru fod yn atebol fel trethdalwr i’r awdurdod lleol ac wedi’u lleoli mewn hereditament cymwys ar 1 Mawrth 2021. Dim ond os ydych yn atebol am dalu ardrethi busnes i’ch awdurdod lleol y dylech lenwi’r ffurflen gais hon.

Gwybodaeth am eich busnes

*
*
*
*
*
*
*

Eich Manylion Personol

*
*
*
*
*

Effaith y cyfyngiadau symud ar eich busnes



Ticiwch y datganiad sy’n berthnasol i’ch busnes: *
Mae fy musnes wedi gorfod cau o ganlyniad i’r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd ar waith ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden

Mae fy musnes wedi gorfod cau o ganlyniad i’r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd ar waith ar gyfer busnesau manwerthu heb fod yn hanfodol

Ni fu’n ofynnol i’m busnes gau, ond mae’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith wedi effeithio’n sylweddol ar fy nhrosiant. Mae effeithio’n sylweddol yn golygu gostyngiad o >40% ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021 o’i gymharu â mis Ionawr a mis Chwefror 2020 (neu gyfnod cymharol o ddau fis os nad oedd y busnes yn masnachu ym mis Ionawr/Chwefror 2020).



Yn achos y rhai nad ydynt wedi gorfod cau YN UNIG, darparwch y canlynol




Efallai y bydd eich Awdurdod Lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth / dogfennaeth i ddangos y gostyngiad trosiant hwn.

Manylion banc eich busnes



*
*
*
*
*  


Gall yr awdurdod lleol ofyn am ddatganiadau banc a gwybodaeth bellach i ddangos tystiolaeth o weithgarwch masnachu cyn i gyfyngiadau gael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2020.

Rheoli Cymorthdaliadau

A ydych chi wedi derbyn unrhyw gymhorthdal (arian gan y sector cyhoeddus - yn unol â diffiniad Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE) yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf (h.y. y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flwyddyn ariannol flaenorol)? *
Do
Naddo

Datganiadau

Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall dogfen ganllaw y Grant sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Rwy’n cadarnhau bod fy musnes yn gweithredu yng Nghymru. Rwy’n cydnabod y bydd fy awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru yn ymgymryd ag unrhyw wiriadau busnes priodol yr ystyrir sy’n angenrheidiol i asesu’r cais ac i wirio natur, defnydd ac effaith y cyllid yn y dyfodol. Rwy’n cadarnhau nad wyf yn derbyn neu’n gwneud cais am Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Rwy’n deall y gellir dyfarnu Grant(iau) sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig NEU Grant Dewisol i mi ar gyfer y busnes hwn, ac na ellir dyfarnu’r ddau fath o grant i mi ar gyfer y busnes hwn. Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darparu’r holl dystiolaeth ofynnol i gefnogi fy nghais am Grant sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall hysbysiad preifatrwydd Grant sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Rwy’n deall, os gwneir taliad grant a bod tystiolaeth yn dod i’r amlwg wedyn i ddangos nad wyf yn gymwys i gael y taliad grant hwnnw, gall y bydd yr Awdurdod Lleol ofyn i mi ad-dalu’r grant yn llawn neu’n rhannol. Hefyd, pe penderfynid bod y taliad wedi’i wneud o ganlyniad i weithred o dwyll gennyf fi neu ar fy rhan, gellir cymryd camau cyfreithiol yn fy erbyn. Nid yw’n ofynnol i’m busnes gau ar hyn o bryd yn sgil torri rheolau cadw pellter cymdeithasol. Nid yw fy musnes yn segur, yn cael ei ddiddymu neu wedi’i ddiddymu neu yn y broses o gael ei ddileu. Mi oedd fy musnes yn masnachu ac yn cynhyrchu incwm drwy werthiant lan hyd at 6yp ar 4ydd Rhagfyr 2020. (Gall yr awdurdod lleol ofyn am ddatganiadau banc a gwybodaeth bellach i ddangos tystiolaeth o weithgarwch masnachu cyn i gyfyngiadau gael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2020).
Rwy’n derbyn yr holl ddatganiadau uchod ac yn datgan bod y wybodaeth a ddarperir yn y cais hwn yn wir ac yn gywir. *