Os rydych wedi cofrestru canlyniad positif am COVID-19 ar safle we GIG Cymru a bod y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi cysylltu â chi i eich cynghori i hunanynysu, efallai y bydd gennych hawl i gael Cymorth Ariannol.
O’r 28 Mawrth 2022 ni fydd cysylltiadau agos sydd heb ei brechu yn gymwys. Bydd angen i gysylltiadau agos heb ei brechu sydd wedi ei adnabod cyn 28 Mawrth 2022 i hunanynysu i gofrestru ei manylion. Bydd rhaid cyflwyno y cais o fewn 21 diwrnod i ddiwedd y cyfnod hunanynysu.
Mae rhaid i ganlyniad positif Llif unffordd gael ei gofrestru o fewn 24 awr o dderbyn y canlyniad. Os na fydd hyn yn cael ei wneud ni fyddwch yn gymwys am daliad a bydd y cais yn cael ei wrthod.
Taliad Cymorth Hunanynysu:
Os ydych yn bodloni'r HOLL feini prawf cymhwystra, mae gennych hawl i gael Taliad Ynysu o £500
• Rydych wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan:
o wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ar neu ar ôl 23 Hydref 2020,
o gofynnwyd i'ch plentyn ynysu o'i ysgol, lleoliad gofal plant neu goleg addysg bellach ar neu ar ôl 23 Hydref 2020,
o rydych wedi cael hysbysiad drwy Ap Covid-19 y GIG oherwydd eich bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif ar neu ar ôl 1 Chwefror 2021
• Rydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig
• Ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
• Ar hyn o bryd rydych chi neu'ch partner yn cael o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn.
Taliad yn ôl Disgresiwn
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad yn ôl Disgresiwn o £500 os ydych yn bodloni'r holl feini prawf cymhwystra eraill uchod, ond:
• Nad Ydych chi na'ch partner yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn.
• Y byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i fethu â gweithio tra byddwch yn hunanynysu.
Mae'r cais hwn ar gyfer un person yn unig a rhaid i unrhyw geisiadau eraill o fewn yr un aelwyd gael eu gwneud gan bob unigolyn
Sicrhewch fod y wybodaeth isod wrth law cyn dechrau eich cais
• Rhif Yswiriant Gwladol
• Cadarnhad o'r dyddiad a roddwyd gan Wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
• Eich Cyfriflen Banc ddiweddaraf, slip cyflog neu brawf o hunangyflogaeth
Os oes gennych ap Covid-19 y GIG ar eich ffôn a'ch bod yn cael eich hysbysu bod angen ichi hunanynysu, oherwydd eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad prawf positif ar gyfer Covid 19, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth.
*
*
*
*
*
*
*
Yn anffodus, nid ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y cynllun hwn oherwydd mae’n rhaid bod Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) wedi cysylltu a chi