skip to main content

Pori'r archifau

XM3626/237

LLYTHYR: John & C. Timothy, Borth, Porthmadog at Capt. E[dward] Williams, yn diolch iddo am ei lythyr. Yr oedd yn ddrwg ganddo glywed ei fod wedi cael mordaith mor ddigalon, ac wedi bod ar cyn lleiad o fwyd. Yr oedd wedi meddwl teligraffio, ond yr oedd hi’n 2 or gloch pan gawsant y teligram. Y mae 4 o longau heb gyrraedd eto. Mae 2 wedi hwylio yr wythnos o flaen Capt. Williams o Sesley, a’r Palastine [Palestine], Robert Williams, yr un diwrnod ag ef, Mae’r Planet wedi cyrraedd Steteen [Stettin] ddydd Gwener diwethaf, wedi hwylio o Borthmadog. Mi hwyliodd y Sidney [and] Jane yr un amser, ond nid oes cownt ei bod wedi cyrraedd eto. Cyrhaeddodd y Queen Ema [Queen Emma]yma nos Sadwrn o Plymouth, mi redodd Frenchman allan i Plymouth pan oedd hi’n dod adre o Hiuelfa, ac mi gostiodd cannoedd o bunnau. Mae colledion trymion wedi bod yma trwy’r gaeaf. Sôn am y Nanhoron.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.