XM3626/209
LLYTHYR: John & C. Timothy, Borth, Porthmadog at Capt. Williams, yn dweud eu bod wedi derbyn ei lythyr. Daeth John adref heddiw, ac yr oedd yn falch o glywed ei fod wedi mynd yno mor fuan er bod y gwynt yn groes, Maent yn gweld ffr[e]ightian Foring [?foreign] yn ddiwerth. Mae ef (John Timothy) wedi bod yn wael ers wythnos. Mae llawer iawn o ferched yn marw yma; mi fu 20 farw un wythnos yn Ffestiniog efo plant bach.