skip to main content

Pori'r archifau

XM3626/208

LLYTHYR: J. & C. Timothy, Borth, Porthmadog at Capt. Williams yn diolch iddo am y llythyr. Yn dda ganddynt glywed ei fod wedi’i chartro am Newry. Mae golwg ddrwg iawn yma am fod cloddfa y Walch [Welsh] Slate wedi dod i lawr. Daeth y Carlowise [Carl and Louise] yma ddoe ac mi aeth John Richard a hi ’ar 4 o anghorion nes daru hi Sinkio’. Mae John Roberts yn wael iawn hefyd. Mi ddaru iddynt ddal tipyn o benog yr wythnos ddiwethaf. Yn dweud wrtho am beidio a disgwyl llythyr yn aml achos y bydd ef (John Timothy) oddi cartref ond nos Sadwrn os bydd yn braf, Yn gofyn iddo ysgrifennu at Evan Jones, Cardiff, Efallai y caiff lwyth o datws o Newry am y Bristol Channel. Yn atgoffa am yrru mesur y ’Trisil’.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.