skip to main content

Pori'r archifau

XM3626/205

LLYTHYR: J. & C. Timothy, Borth, Porthmadog, at Capt. E[dward] Williams, yn diolch iddo am y llythyr a ddaeth heddiw. Bu iddynt ddanfon llythyr ato ef ddoe. Nid ydynt yn gweld fawr o ddiben iddo ddod yno. Aeth ef at y doctor yng Nghaer ers 6 wythnos ond nid yw’n meddwl ei fod wedi helpu llawer. Mae’r Betsey wedi dod yno. Mae tad [Capt. Williams] a William yn cofio ato. Mae llawer iawn o longau yn hel yma bob dydd. Nid ydynt wedi ysgrifennu at berchen y barque am fod Capt. Williams wedi gyrru ato, ond y maent yn ddiolchgar iddo am ei ’sypleuo’. Yn gofyn iddo ddweud wrth Humphreys eu bod yn cofio ato’n garedig, ac yn dda ganddynt glywed eu bod wedi setlo gyda’r criw heb ddim twrw. Mae William Evans, hen gapten y Flidwin [Fleetwing], yn dechrau llong newydd o flaen eu drws, 82 troedfedd keel. Bu farw Evan Pi[e]rce, Penmorfa, heddiw.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.