skip to main content

Pori'r archifau

XM3626/203

LLYTHYR: John & C. Timothy, Porthmadog at Capt. E[dward] Williams. Y maent wedi derbyn ei deligram. Mae John Timothy ar gychwyn am y Ty Gwyn nawr gyda’r teligram. Mae’n ddrwg ganddynt glywed ei fod wedi cael cymaint o wynt croes ar ol mynd trwy Giwbarlter [Gibralter]. Heddiw yr oeddynt yn dechrau anesmwytho. Yn ofni y bydd yn cael ffreight sâl i ddod oddi yno: mae ffreightiau mor isel ymhob man. Mae llawer o longau yma. Y mae y Planet a’r Jane yn gaesfu yn yr Alban yn rhwym i Stetteen [Stettin] ac wedi talu’r criw. Yn dymuno blwyddyn newydd dda iddo ef ac Humphreys a John Jones y brig newydd os ydyw yno. Yn disgwyl y bydd wedi derbyn eu llythyr olaf. Bu farw gwraig Griffith Jones y rigger.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.