skip to main content

Pori'r archifau

XD49/3/114

BWNDEL o nodiadau, adysgrifiadau a llythyrau ynglyn â hanes Gorffwysfa, gan gynnwys: Trefn cyfarfod dathlu canmlwyddiant Gorffwysfa 21 Medi 1966; llyfryddiaeth; rhestr o ddyddiadau pwysig yn hanes Gorffwysfa; rhestri blaenoriaid, gweinidogion, arweinyddion y gân, ysgrifennyddion yr Eglwys, trysoryddion etc. 1867-1964; dau lythyr gan Olwen Harris-Hughes Brynteg, Fairwater, Llandaf, Cardiff at [Y Parch John] Owen ynglyn âg ysgrifennu hanes ei rhieni yng Ngorffwysfa; nodiadau bywgraffyddol ar y Parch a Mrs. John Pritchard; llythyr gan J.L. Mathias, Derlwyn, Ynysybwl, Morgannwg ynglyn â’i yrfa fel gweinidog Gorffwysfa; nodiadau ar gylchrediad cyhoeddiadau Cymraeg c. 1861; ychydig o hanes Capel Gorffwysfa, Llanberis a roddwyd gan Mrs. Ben Thomas, 1 Thomas Street, Llanberis; adysgrifiad o’r Goleuad 14 Rhag. 1872; Llanberis Ragged Schools; nodiadau bywgraffyddol a barddoniaeth y Parch Griffith Tecwyn Parry; rhaglen dathlu hanes can mlwyddiant Gorffwysfa; ysgol Brynrefail gan J.P.; traethawd D. Wilson Roberts, Lane Terrace, Llanberis 1896 ar hanes Gorffwysfa; adysgrifiadau o weithiau Iorwerth Peate, Myrddin Fardd, W.M. Hobley, Y Drysorfa; nodiadau ar hanes yr Eglwys Leol; bywgraffiad Edward Foulkes (1849-1917); bywgraffiad John Roberts (Llanberis); nodiadau o’r Drysorfa a’r Goleuad ar amryw o weinidogion; adroddiadau ar hanes y capel; ysgrif ";Llên a Chân"; 1866-1966. [74 o eitemau].


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.