skip to main content

Pori'r archifau

XM1573/94

LLYTHYR: John Jones, Victoria Quarry, Hackthorpe St., Netherfield Road, North, Mason, Contractor and Quarry Proprietor at ei frawd. Mae’n ddrwg ganddo glywed am y ddamwain gyda phlwm toddedig. Wedi darllen am hanes y Sale yn yr Herald ac wedi talu llog o £250 i Mr. C. Jones. Mae Lewis Rees Williams yn poeni oherwydd ei esgeulustra. Mae’n son iddo ef golli bob dim, ac yntau mewn e dieithr gyda a teulu mawr i’w cynnal. Ceisiodd gael arian gan Rees, Masnach gwlan i brynu esgidiau i’r plant ond heb gael ateb, er iddo gael y busnes, nid oes gan Rees air da i ddweud amdano. Mae’n awr yn cadw siop ";greengrocery"; ac wedi gwario’r arian i ddechrau’r busnes ac oherwydd hynny mae pethau dipyn yn anodd. Yn son am Gymanfa Gwener y Groglith, ac yn anfon y cyhoeddiad iddo a’r Dosbarth Beibl. Mewn ateb i’w gyfeiriad at Mr. Price a Mr. Davies yn ei lythyr ato, sef nad ydynt yn deall beth i anfon at Mr. Rathbone, mae’n cynghori iddynt peidio trafferthu. (Anghyflawn).


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.