XM1573/49
LLYTHYR: R.B. Pritchard, Middle Granville, New York, at ei chwaer a’i frawd yng nghyfraith Mr. a Mrs. Robert Thomas, 8 Newborough St., Caernarfon. Mae yn "Election Day" yno, and nid yw tros unrhyw blaid a dim yn debyg o fynd i bleidleisio. Yn ysgrifennu’n wawdlyd am faterion gwleidyddol yn America. Yn son am y stori sy’n mynd o gwmpas yno am ryfel gyda Sbaen, ond mae’n gobeithio nad yw yn wir, o achos fod storiau fel hyn yn drysu masnach. Bu yn New York gyda Maggie pryd y clywsent y newydd am ddrylliad y "Ship of War Maine" yn harbwr Havana. Yr oeddynt eu dau wedi bod yn y Stock Exchange ac mae’n disgrifio sut mae pethau yn gweithio yn y fan honno. Dal yn wan mae masnach y chwareli yno, buasai’n medru gwerthu digon i’w gyrru i Brydain, ond yn anfodlon gwneud hynny heb gael tâl am y cerrig gyntaf. Mae Campbell, Lerpwl yn awyddus am gael y cerrig coch, ond nid ydyw’r tâl yn foddhaol. Mae’n son am ei blant, am Robert Hughes ac am bregethwr Baptist o’r enw Vyrnwy Morgan o Abertawe, sydd yn yr ardal, a hefyd Robert Jones, baker, wedi ei ddwyn i fyny gyda’r Annibynwyr, ac wedi troi yn Fedyddiwr, gyda’i wraig ac yn bregethwr poblogaidd gyda pob enwad, ond yn gofyn tâl uchel. Mae’n synnu mor fychan yw gwybodaeth Vyrnwy Morgan am Weinidogion Capeli Cymru. Mae’n ysgrifennu am A. Parry yn ceisio cael ei anrhydedd o D.D. ers pum mlynyedd, ac yn y blaen.