skip to main content

Pori'r archifau

XM1573/41

LLYTHYR: R.D. Pritchard, Middle Granville, New York, to Mr. Robert Thomas a’r teulu. Yn drist iawn o glywed am farwolaeth Owen Hughes, ac yn edifarhau na fuasai yn gwybod yn gynt fel y gallasai fod wedi bod yn rhyw gymorth iddo yn eu gystydd a thlodi mawr. Mae’n anfon y llythyr hwn mewn ateb i Robert Thomas, a oedd eisiau gwybod a fuasai’n fodlon cymeryd bachgen bach eu cefnder Owen Hughes yno. Ar ôl ystyried y mater, maent un ag oll wedi penderfynnu ei gymeryd yno a rhoi cartref iddo . Mae’n gofyn tybed a wyr Henry Thomas am rywun fuasai’n hwylio ar y steamers i ofalu am y bachgen ar ei ffordd drosodd i’r America. Aiff ef i Ellis Island New York i’w gyfarfod. Yno mae’r "Emigrants" yn glanio. Mae’n fodlon cymeryd y cyfrifoldeb amdano nes bydd mewn oedran gwr. Mae’n diolch i Robert Thomas a’r teulu am yr hyn a wnaethant i Owen yn ei gystudd.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.