skip to main content

Pori'r archifau

XM1573/38

LLYTHYR: R.B. Pritchard, Middle Granville, New York, at ei chwaer a’i theulu yn cydnabod dau lythyr oddi wrthynt. Da ganddo i Robert alw hefo Willie Rogers i ofyn am ei bapurau, ond yr oedd yn synnu ei fod yn dweud iddo eu dinistro, ac yntau wedi pwyso arno yn bendant fod yn ofalus ohonynt. Mae yn gofyn am gyfeiriad Willie Rogers, er mwyn iddo gael anfon gair ato ei hyn. Haws fuasai ganddo gredu iddo eu rhoi i John Pritchard, Ffestiniog. Yr hwn fuasai’n hoffi eu cael am ei fod gymaint o "cheat". Mae yn gobeithio y daw David trwy ei arholiadau yn llwyddianus. Yn son am un o bregethau Thomas Rhys Davies. Mae chwarelwyr un ardal yno ar streic, ac yn galed ar ganoedd, gyda chwarelwyr mewn gwaith yn eu cynorthwyo’n fisol. Mae ef yn gwneud be allai i helpu’r dynion am mai hwy sydd ar yr iawn, er fod ei meistradoedd yn West Pawlet yn gyfeillion iddo ac mae’n gwerthu llawer o gerrig cochion iddynt bob blwyddyn. Yn ôl yr arwyddion bydd y streic yn parhau tan y Gwanwyn. Gwelodd yn y "Drych" am farwolaeth Evan Hughes, tad y Parch. John Hughes. Mae’n rhy brysur arno i ddod drosodd yr haf nesaf ond daw yn 1896. Mae wedi dechrau Chwarel newydd, ac yn cyflogi gymaint o ddynion ac sy’n posibl tra bydd y cyflogau yn isel, ac mae’n bwriadu gwneud digon o lechi i’w masnachu am 3 i 4 blynedd rhag ofn streic yno hefyd. Mae’n holi am Owen Hughes ac yn dda ganddo ddeall ei fod yn gweithio. Mae’n well iddo weithio yng Nghymru na mynd i’r America am na fuasau’n dal y tywydd gerwinol yno. Mae’n rhoi hanes y tywydd eithafol yno. Mae’n son am Harri Ty Capel wedi mynd i Bont y Pridd ac wedi gadael ei "trunk" yn lloft y stabal yno. Mae’r genod yn falch o’u rhoddion Nadolig. Mae’n erfyn iddynt ofyn i Mr. Davies ym mha le y mae’n bosibl cael rhifynau o’r Bedyddiwr sy’n cynnwys ysgrifau Owen Michael Y Pregethwr. Dywedodd A.J. Parry ei fod wedi gaddo y rhifynau hyn i Mr. Morgan, Gweinidog y Bedyddwyr yn Johnstown, yr hwn sy’n darlithio ar hanes Owen Michael. Mae a y pregethwr amryw o gyfeiriadau henafol, teuluol a dymuna ei gweld. Mae’n aml yn cael sgwrs gyda Aneurin Fardd yn eu cylch (Aneurin oedd cyhoeddwr y Bedyddiwr ar y pryd).


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.