XM/5120/87.
LLYTHYR: Robert Closs at Mr. Ellis Jones, Vaenol, Bangor. Yn diolch am ei. lythyr. Maent oll yn gysurus. Nid yw am ymhelaethu gan ei fod yn gwybod y can nhw eu hanes gan y dygiedydd (sic) oherwydd mae Edward Jones (sef y dygiedydd) yn byw yn eu mysg ac yn gwybod amdanynt yn berffaith. Hen lanc ydyw (EJ) lled gysetlyd ond yn bur wybodus ac fe fydd yr hyn a ddywedo’n hollol gywir. Gwneith R.C.ysgrifennu nes ymlaen. Mae EJ yn ddyn cyfrifol yma ac yn werth arian mawr. Os daw i dy Ellis Jones, mae RL am iddo’o groesawu fel pe bai ef ei hun yno.