skip to main content

Pori'r archifau

XM/5120

PAPURAU PENYBRYN EDERN PAPERS

Casgliad hynod ddiddorol o lythyrau, gweithredoedd a nodiadau amrywiol yn ymestyn yn ol i flynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg, yn ymwneud yn bennaf a Phenybryn ac eiddo arall ym mhlwyf Edern. Craidd y casgliad yw swp o lythyrau a ddanfonwyd gan Hugh Jones, Georgia, UDA at ei rieni a’i frodyr yng Nghymru, yn adrodd hanes ei garchariad yn ystod y rhyfel rhwng America a Phrydain yn y 1770au a’r bywyd newydd a ganfu yn America ar ol iddo gael ei ryddhau. Ceir yn yr atebion a gafodd wrth ei frodyr fanylion dadlennol ynglyn a hanes Sir Gaernarfon yn ystod chwarter olaf y ddeunawfed ganrif.

An extremely interesting collection of letters, deeds and miscellaneous material going back to the early years of the seventeenth century concerning Penybryn and other properties in the parish of Edern. Of primary interest are an important collection of letters sent by Hugh Jones, Georgia, USA, to his parents and brothers in Wales, relating his experiences as a prisoner during the Anglo-American War of the 1770s and his subsequent life as a settler in America following his release. The replies from his brother reveal many aspects of Caernarfonshire history during the last quarter of the eighteenth century.

Teitl EitemDisgrifiadDyddiad Archif
Tudalen 15 o Index was out of range. Must be non-negative and less than the size of the collection. Parameter name: index

Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.