skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/12.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A., at ei gyfyrder [Williams R. Williams, Llanllyfni]. Mae’n diolch am iddo ysgrifennu geiriau caredig amdano yn `O Nebo i’ r Llan’ yn Y Genedl. Trwy’r `cable’ cafodd wybod iddo ennill gyda’; stori yn Y Drych. Cyfeiria i’r Parch. Joseph Evans, MA, New York, ennill wobr bwysig rhyw 5 mlynedd yn ol. Enillodd E.C. Evans, MA, Remsen, New York, ddeg gini am gyfieithu o’r Lladin o Eisteddfod Caernarfon 1877 a bu G.H. Humphrey, MA, New York ag Eos Glan Twrch, Rome, New York, yn ail ar destun y gadair, ond ni aeth y gadair genedlaethol dros y dwr. Cyfeiria at y ganmoliaeth i gôr Llangefni am ganu `Sanctus’ (Bach). Holai pwy oedd eu harweinydd a beth ddywedasai D. Emlyn Evans pe clywsai am gampwaith y monwyson. Mae’n trafod ysgol Pen-y-Chwarel ac iddo arfer meddwl mai yr un ydoedd a’ Nebo ond credai mai camddealltwriaeth oedd hynny. Ni wyddai fawr am y Mynydd’. Gwyddai lai am Nasareth; yno yr oedd Ty Ffowc a bu ym Mron Rhiw unwaith gyda Owen y Gelli ac ym Mhont Lloc yn danfon arch neu ddodrefn. Ni fu erioedyn Nghalygarnedd. Ni fu lawer ym maesdrefi Llanllyfni. Cofiai i Francis ag ef fynd unwaith a methu croesi rhyw gloddiau cerrig ac i `Nelson’ y ci fynd ar ôl y cathod i ddrysau’r tai ac i wragedd mileinig fynd ar eu holau gydag ysgub. Noda mai mab y Parch. Robert Williams, MA, (Robin Enoc) Nebo gynt oedd yn weinidog yn New York efo’r Methodistiaid. Ei enw oedd E. Llewelyn Williams. Bu ei dad yn weinidog Moreia, Utica. Mae’r mab yn llawer mwy Seisnigaidd na’i dad. Cyfeiria at y tywydd sych, at `Labour Day’ (y dydd Llun cyntaf o Fedi) at dannau yn y coedwigoedd, ei fwynhad wrth ddarllen ysgrifau Bob Owen yn enwedig hanes ei gwibiadau i leoedd hanesyddol megis y Gaerwen, Bettws Fawr a Chlynnog gyda phobl y Penrhyn ac o dan arweiniad `Bardd yr Haf’ Williams-Parry neu Parry Williams. Ni allai ddidoli enw hwn oddi wrth enw ei gefnder o Ryd-ddu ac Aberystwyth. Canmolai ei daith olaf i Fodfari ac mai’r un Edward Davies yr aeth i’w weld yw yr un ag E.D. Penmorfa, awdur `Hanes Porthmadog’. Adwaenai brawd a chwaer i E.D.yn San Francisco. Rhai o Wyddelwern, Corwen, oeddynt. Holai William pryd fu ddiwethaf tros `ben Bodychain’. Dylai gael mynd ar foto beic tua Phant Glas ac i Sardis yn gyflym. Efallai bod cenhedlaeth newydd o bysgod yn Afon Brychyni (Afon Wen) erbyn hyn gan fod llawer o flynyddoedd ers pan roddodd y sachaid calch ynddi. Cyfeiria at ei iechyd ac ei fod yn gorfod bod yn ofalus.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.