skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/11.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at ei gyfyrder [William R. Williams, Llanllyfni] yn diolch am ei lythyr ganddo yn sôn am hanes ei wîb i’r Dinbych ac iddo son am Morgan Richards a W.O. Williams, pregethwyr America. Gwelodd Richard unwaith pan ddaeth yn arweinydd i Thos. Charles Williams trwy’r Gorllewin yn 1909. Mae’n trafod eu hagwedd at y Weriniaeth. Cyfeiria at Saunders [Lewis] Abertawe yn gwaredu wrth orfod bwyta gyda gwas mewn ty fferm yn Wisconsin. Credai mai ym Wilkesbarre Pa. `roedd W.O. Williams yn weinidog. Mae’n synnu bod R.H. Thomas `Wmphra’r Felin’ Pant Glas yn y gwallgofdy. Un o deulu Hengwm ydoedd. `Roedd hen wraig Hengwm a hen wraig Bodychain yn ddwy chwaer, merched Cefn Cae’r Ferch a oedd yn terfynu gyda Bryn Bychan. Eu brawd oedd `Rhisiart y Cefn’. Mab Hengwm oedd `Sion Tomos’ y Felin, Plas Glas, sef tad R.H. Thomas a chwaer hwnnw oedd `Elin Hengwm’, gwraig gyntaf John Parry a gadwai siop ym Mhenygroes a bu iddi farw yn Seilam Dinbych. `Roedd Dic Hengwm yn byw ym Melin y Berch ac aeth yntau’n wallgof. Credai bod Anne wedi marw. `Roedd hi’n byw ym Mwlchgwyn y Cenin a bu’n rhaid ei chadw dan glo mewn ystafell am flynyddoedd ac mae Wmphra ei mab mewn cyflwr gwael hefyd. `Roedd Beti Hengwm yn byw yn Lerpwl, ei gwr yn `estate agent’ cefnog, ond cafwyd eu chorff tua Birkenhead - hunanladdiad. Credir bod rhai o’i meibion yn wallgof hefyd. Trigai Twm Hengwm yn Felog Bach a Thanyfoel ger Pant Glas, yna aeth at ei ferch Mary ger Taliesin neu’r Borth ger Aberystwyth ac yn ôl ei fab Wmffra aeth yntau`n wael iawn cyn marw. Cafodd brawd R.H. Thomas sef `Wil Tomos’ stroc. Priododd eu chwaer, Lissie, ryw hogyn o’r mynydd. Credai’r teulu yma mewn rhinwedd rhoi hosan fudr am y pen i gael gwared o gur pen. Aeth R.H.T. yn weinidog i Ffynongroew. Holodd J. Mordaf Pierce, Llanidloes, amdano ac yn ôl hwnnw `roedd yn Sir Ddinbych. Y tro olaf y gwelodd Tom ag Wmffra oedd ym Mwlchderwin, Tom yn feirniad y lenyddiaeth ac Wmffra yn arwain y cwrdd llenyddol. Tom Pierce oedd yn pregethu yno ar y Sul. Enillodd mab Hendre Nantcyll ar destun `nofel gysylltiedig ag ardal Bwlchderwin’. Priododd hwnnw â morwyn, bellach yn weddw am yr eildro. Tad y bachgen o bosib oedd Owen Humphreys ond i’r teulu fynd oddi yno i Fôn ac iddynt ddychwelyd rywdro wedyn. Credai mai’r un Humphreys oeddynt â rhai y Gesail Gyfarch, Penmorfa. Ni wyddai a oedd yr hen R isiart Humphrey, Braich y Foel, Bwlchderwin, yn un o’r teulu. Mae’n trafod misolyn o `r enw Trysor i’r Ieuanc. John Wynne oedd ei olygydd a Pheter Evans ei argraffydd. Bu i Rhisiart farw ym Mehefin 1826 a chafwyd ysgrif coffa amdano yn y misolyn gan Robert Williams, Brynengan, mab i’r hen bregethwr `Rhisiart William, Brynengan cychwynydd `Diwygiad Beddgelert’. O Fraich y Foel, sef ty Rhisiart Humphrey y tarddodd eglwys Bwlchderwin ac ef oedd y prif symudydd i adeiladu’r capel cyntaf. Cyfeiriai at cofiant O. Owens, Cors y wlad, gan H. Hughes, Bryncir, sy’n llawn o loffion rhyfedd. Brynengan oedd yr unig gapel Methodist yn y cyffiniau bryd hynny, ac fe’i adeiladwyd yn 1777. Mae’n trafod testunau a beirdd fel Eifion Wyn, Cynan a Wil Ifan. Prof. George Marks Evans, Mus. Bac., Shamokin Pa. enillodd ar gyfansoddi cerddoriaeth ar y gân i `Hen Bont y Llan’ ac ei fod yn cael trafferth ei chyhoeddi. Nid oedd Hughes a’i Fab, Gwrecsam yn fodlon oherwydd y cyni yn y pyllau glo. Mae’n synnu mai Batus yw bobl Tudraw i’r Afon. Mae’n debyg mai’r wraig a’i theulu oedd yn Fedyddwyr. Credai mai i Eglwys Dolbenmaen yr ai teulu Wmphra. `Roedd ganddo ferched glandeg. `Roedd ef a’i frawd Huw yn ddigon diog ond `roedd eu chwiorydd yn olygus. Bu i un, Laura, briodi a mynd i fyw yn `Lôn y Nant’ ym Mhenygroes. Mae’n son am Llewelyn Davies sydd yn Oregon City, Oregon. Garddwr yw. Cofiai am lwybr ger Tu draw i’r Afon yn cychwyn tua’r nant, heibio Bryncastell a Chaerengan ag at Bompren neu Sarnau `r Criwia. Mae’n ateb cwestiwn William a J. Parry Thomas, Lincoln Park, Chicago, sy’n ysgrifennu i’r Drych. Credai mai un o tua Abersoch ydoedd ond aeth ei deulu i Ffor i fyw. Cyfeiria at Hebron, capel Cymraeg mwyaf Chicago. `Roedd Tom yn hen gyfaill i J. Morris Jones. Bu iddo ysgrifennu truth hir ar `Wild Wales’ George Borrow. Ysgrifennwyd y rhagymadrodd i `Wild Wales’ gan Theodore Watts- Dunton. Canmolai `Aylwin’, awdur enwog, ef. Mae’n nodi cefndir Borrow, 1803-1881. Mae’n trafod tafarndai ac effaith `sothach gwenwynig’. Cyfeiria at Huw Llangefni a Daniel Puw yn mwselu ffered, ac nad yw Daniel Puw a Daniel Parri bellach yn dod i ffair Llanllyfni. Mae’n cofio’r amser da a gafodd yn y ffair a oedd mewn rhywle cul rhwng Cefn Pant y Gôg Isa a chlawdd y fynwent. Mae’n trafod cost o gael bynglo, cyflogau uchel tra bod llawer yn ddiwaith, ac y `dole’ yn arwain at segurwyr. Holai am Siôn Llecheiddior. Cred iddo fyw o’r tu ucha i Fodychain ar gwr Nasareth. Cyfeiriai at y `Smaeliaid’, ei ofn o ddynion du pan yn ifanc, bod wyr i Siôn Llecheiddior yn byw yn ardal Beaver Creek, Oregon a’r enw Ed. Jones c.40 oed. Aeth ei fam a’i frawd i fyw i Gaernarfon. Ei fam a ofalodd am modryb Ty Ffowc. Meddai Ed. ar ddarn o dir, cadwai ddefaid a gwerthai dipyn o goed. Hen lanc ydoedd. Mae’n cyfeirio at ei iechyd, y tywydd a’r tannau yn y fforestydd a disgwylai glywed gan William ei fod wedi ennill yn eisteddfod Lerpwl. Marciau mewn pensil mewn mannau ar y llythyr.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.