skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/10.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at ei gyfyrder, William -[R. Williams, Llanllyfni] yn trafod y teulu, testun yn eisteddfod Utica sef cerddoriaeth ar y geiriau i `Hen Bont y Llan’, (J. Jones Owen o’r `Nant’ yw y beirniad). Bu iddo anfon stori fer. Y Parch. R.W. Hughes, BA, neu MA, gweinidog yr A. yn Utica yw y beirniad ac yn ddiweddar o r Felinheli. Mae’n falch fod William wedi cael trywydd ar fab John Bookseller. Mae’n son iddo gyfarfod y ddau ddyn a fu’n byw yn Rome, New York, ac iddynt drafod `Wat bach’ Watkin o Lanllyfni ac iddynt gredu ei fod wedi priodi merch weddw Cynog ac eu bod yn byw yn rhywle rhwng Utica a New York, ag yntau’n gweithio mewn siop cigydd yn Rome. Mae’n trafod y radio a’r iaith Gymraeg, corau, y Felin, a nai i `John y Co’ ac ei fod yn selog dros Wil Morgan Williams. Mae’n trafod i John ei frawd wneud allan bod Wil yn ffwl ond ni gytunai gyda hynny. `Roedd yn gweithio fwyaf yng Nghae’r Gors. Yna bu iddo symud i Daiduon. Ni wyddai lawer am y `Meddygon’ yr oedd gan Laura ei chwaer un o’u llyfrau. Mae’n hallt ei farn am y Saesneg ar eu beddau ac hefyd ymosodai ar Y Drych (y golygydd yw Hugh Hughes). Mae’n holi am Eben, ysgol Clynnog. Mae’n trafod Colofn Garneddog yn Yr Herald am Goronwy, cael Y Genedl gan D.R. Daniel a hanes taith D.R. Daniel gyda Dr. Griffith, Pwllheli (Dr. Mela) gan gyfeirio at y `Four’, Felin Bencoed, station yr Ynys, Bryn March, `Lôn Goed’ (ffordd Maughn). Ym Mryn March ardir y Gaerwen y treuliodd Nicander ei fachgendod, yna Siop y Congo i weld `Cenin’, ac yna i’r Taiduon. Mae’n cyfeirio at y torrwr beddau yn gorffen cau bedd gwraig Tu drws i’r Afon. Yna i Bant Glas, Bwlchderwin a choleg Ynys yr Arch a Ty Capel Ucha, Clynnog i eistedd yng nghadair Robert Roberts; merch Hywel Tudur, gweddw ieuanc oedd yn cadw ty’r capel. Mae’n cyfeirio iddo gael teligram y bore hwnnw gan Peredur, mab D.R. Daniel o Lundain yn dymuno Nadolig Llawen. Mae’n holi am Wmphra Roberts, Tu draw i’r Afon. `Roedd Michael yn hanner brawd i’w fam. Cafodd ei fagu ym Mhlas Dolbenmaen, tafarn a fferm, ac arferai fynd i eglwys Dolbenmaen. Mae’n trafod testunau Lerpwl, damwain y cafodd dri mis yn ôl pan ddisgynnodd i hen garthbwll, stormydd yng Nghymru, a hanes Llangefni Bach yn `leader’ ar y rhai oedd yn cadeirio’r bardd yn Wilkesbarre.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.