skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/9.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington at ei gyfyrder [William R. Williams, Llanllyfni]. Mae’n cwyno am ei iechyd, ei fod yn gweld Y Genedl weithiau, ac yn cyfeirio at ffrwydriad yn Nhaldrwst a bod Laura a’r forwyn wedi eu hanafu neu eu llosgi. Holai am Robin, brawd `Dic y Cenin’ ac mae’n trafod hanes Owen Roberts, Dolgau a’ i wraig o flaen y llys ynghylch y plant. Mae’n canmol ysgrif William ar yr hen fedyddiwr o’r Bontlyfni. Bu iddo gyfeirio at feibion `Wm. Roberts, Awstralia’. Mae’n nodi iddo gael gini ar y testun `Enwogion Sir Feirionydd’, i dan ddifa un o dai John W. Griffi’th, iddo ddarllen ysgrifau rhyw `Gwallter’ ar yr `Hen Glochydd’, helynt Tom Nefyn ac ei fod yn hanner brawd i’w daid, tad ei fam. Anne, o Gadlan oedd ei fam, a `J.T.W.’, Llithfaen, a ysgrifennodd i’r wasg oedd ei dad; roedd cefnder i’w fam yn flaenor yn Willesden Green, Llundain a dywedodd hwnnw fod teulu `Anne yn erbyn iddi briodi J.T. Williams. Mae’n trafod `Telepathy’, D.R. Daniel a gwyr y Weriniaeth ar y 4th o Orffennaf a’r gloddest tua Llyn Bomoseen, Vermont ac iddo gael gair o Geneva gan Peredur ei fab a oedd yno yn y gynhadledd ryngwladol ar ran Samoa a rhai ynysoedd eraill Môr y De; cyfeiria at Watkin wedi dod i’r fei, menyn Dafydd Cae’r Gors, ei frawd Owen yn byw yn Llwyn Gwandl Ucha a Morris ym Methesda. Bu iddo golli ei wraig ac fe gafodd ei ferch Infantile Paralysis, dathliad yn Beaver Creek, Oregon ardal plant Laura, y Parch. J. Rhys Griffith, brodor o Lanfairfechan a `head cashier’ yn Roberts Bros., Department Store yn Portland, Annie, merch John, Ceithio `brawd Gwynoro Davies, Y Bermo’, eisteddfod, nofelau sef `Yr Etifedd Coll’, E.M.H. un arall o’r De, a’r llall `Torriad y Wawr’ yn Lleyn gan Morris Thomas, MA, a’i ffynhonellau a `Straeon y Chwarel’, R. Hughes Williams. Camola Kate Roberts yn arbennig `O Gors y Bryniau’. Rev. J.R. Griffith, Portland, fydd yn anfon llawer o lyfrau ato. Mae’n canmol `Cerddi Eryri’, Carneddog yn arbennig Fuchangerdd Eifion Wyn i’r gwarcheidwaid ynghylch J.R. Trefanwy. Mae’n trafod llythyr a gollwyd ac iddo holi am deulu o’r Garn a ddaeth o Du draw i’r Afon, yn cynnwys Humphrey Roberts, mab Plas Dolbenmaen.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.