skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/7.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at ei gyfyrder [William R. Williams, Llanllyfni] yn trafod llyfr gan y Parch. W. Ambrose a anwyd yn 1832 yng Ngalltraeth ac a fu farw yn 1878, ac a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1874. Mae’n ei farnu am roi Clynnog ac oddi yno i Ddinas Dinlle yn `Nant Nantlle’. Mae’n cofio y Parch. Owen Jones, MA, Drenewydd yn ei farnu ef ei hun am grwydro i Bwllheli o ffiniau Eifionydd mewn papur arbennig. mae’n cyfeirio at `Margied erch Ifan’, cymeriad nodedig Eryri. Mae’n synnu i’r Parch. Ambrose beidio a son am `Ddoctor y Mynydd’ a Doctoriaid Esgyrn Penygroes’, na maen hir Graianog, er na wyddai ef am ran o Fôn a elwir yn ’Glynnog Fechan’ y cyfeiria’r Parch ato. Mae’n trafod ei hen gyfaill W.J.Williams (’Bill J’) o’r Bontllyfni a’i chwaer Miss Williams. Mae’n cofio William Jones Coecia, hwsmon yn y Mynachdy a oedd yn byw yng Nghefn Weit. Ei wraig oedd merch i Robert Williams a fu’n fyw yng nghefn Weit, ac o bosib ’roedd yn gyfnither i blant Robert Williams Sardis/ Wil Glanymor o Lanymor ger Ffriwlwyd beu y Bontfechan. Yr adeg hynny Mary yr Hendre (merch i’w hanner brawd) oedd yn byw yn y mynachdy. Mae’n adrodd hanes rhedeg rhag y cipar gyda Dafydd brawd Ellen ei wriag ac yn enwi caeau a lleoedd. Mae’n adrodd ei hanes yn disgyn i domen ddofn wedi iddo saethu ceiliog hwyaden. Mae’n trafod adegau eraill y bu yn hela hefyd fel ac yn y Gaerwen, Cefn Pencoed a Mynydd Cenin. Cyfeiria at Lôn Gefn. hanes Eisteddfod Dorothea, salwch D.R Daniel, gwaith ei gyfyrder, hunangofiant Henry Jones Glasgow, ’Old Memories’, prifathro Prifysgol Exeter. a’r llyfr ’Madam Wen’, W.D.Owen. Cofiai am Emma, chwaer John Roberts, y Pandy ac am ei gi a fu’n hela gydag ef a Francis. 75 mlynedd yn ôl i Tachwedd 13 daeth llong i’r cae gyda’r sefydlwyr cyntaf, ac yno bellach mae dinas gyda 400,000 o drigolion. Bu yn yr Oregon gyda Wil mab Laura ei chwaer a’i deulu ac mae’n adrodd ei daith -y pellaf iddo erioed fod mewn modur. Mae’n disgrifio ffrwythau gan gyfeirio’n arbennig at ’Prunes’. Mae’n dymuno cael ei gofio at W Jones, Coecia a R.T.Pant Du. Marciau mewn pensil ar y llythyr.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.