skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/6.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at [William R. Williams, Llanllyfni] ei gyfyrder yn diolch am ei lythyr dyddiedig Chwefror 25 a llythyr Eben at "John W.". Mae’n trafod Eisteddfod Dorothea a thestun "Hunangofiant Chwarelwr". Cyfeiria at John Wynn "History of the Gwydir Family". Nodai y bu Brynbychan yn ddwy fferm, "Ty Ucha" a’r "Ty Isa" a dros y ffordd `roedd "Ty Draw". Pan aeth tad a brawd Owen y Gelli i’r Mynydd Du, Pentrefelin, gwnaed y ddwy fferm yn un. Canmolai lythyr Talhaiarn ac iddo fwynhau `Robert Dafydd’ [Cofiant] ac iddo enwi llawer o hen frodorion yr adnabyddai ef fel Robert Roberts Hendre Cenin, aelod o `Gymdeithas Cefnmeysydd’ (Ellis Owen) ac a oedd yn ddarllenwr da. Cofiai fod yn un o’i ddosbarth ysgol Sul gyda Moris Griffith Ynys Creua. Laura merch Robert Roberts yw gwraig `Taldrwst’, Robin, Cae’r Bwlch, brawd `Dic y Cenin’. Mae Dora ei chwaer yn byw ym Mhenygroes ac wedi ail briodi siopwr. Mae’n trafod fod Henry Hughes yn credu bod Michael Roberts yn gefnder i’w dad. Ei daid a’i nain oedd Humphrey Hughes a Margaret chwaer Robert Roberts, Clynnog. `Roeddynt yn byw yn un o dai Tyddyn Rufydd fel Robert Dafydd. Nodai bod croeso i William gyhoeddi gwaith o’i eiddo yn Y Genedl er ei fod braidd yn hen ffasiwn ac ei fod am yrru copi o’r stori fer a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Utica. Ymhelaetha am ei atgofion am Eisteddfod Penygroes tua 1878. Cyfeiria at Emrys a fu farw 31 Hydref 1873, bod Capel Coffa iddo, ac nad oedd yn cofio ei draethawd ar Dyffryn Nantlle. Mae’n trafod Y Genedl gan gywiro camwybodaeth William am lle bu’n brentis. Unwaith y bu ym Mron- turnor yn cynorthwyo Francis i nol blawd lli i gochi eogiaid yn simdda Ty’n caeau. Gyda J. a G. Pritchard ym Mhenygroes y bu’n brentis (Hogia Bodychain). Buont yn ail-wneud Capel Soar, Brynaerau, y rheilffyrdd, ond ni gredai i’r un plas gael ei dymchwel gan nad oedd yno yr un. Mae’n trafod gwaith J.W.P. a O.Ll.O. Caernarfon ynghylchy man y bu’r hen frenin Iorwerth I yn aros ym Maladeulyn neu Lanllyfni. Cyfeiria at Nant Llanllyfni, `Nant Nanlle’, a John Jones, Talysarn "Johrt Llanllyfni", pregethwr. Mae’n trafod Llanllyfni fel ypentref hynaf ac yno y cynhelid gwyliau mabsant a phopeth felly. Lleoedd cymharol newydd yw Penygroes a Thalysarn. Ni chredai fod atgofion J.W.P. yn gywir e.e. plasdai hynafol Penygroes. Un ty to gwair oedd ym Mhen- ygroes yn 1795 o’r enw Penygroes. Cyfeiria hefyd at Dy Ffowc, Llanllyfni. Mae’n enwi rhai gyda cysylltiad gyda`r rheilffordd fel L.W. Lewis, Emporia, Kansas, y contractor, yn wreiddiol o Dalybont neu Daliesin ger Aberystwyth. Mae’n trafod rhifyn o’r Genedl ac yn arbennig `Lwybrau Bro Mebyd’, ac at `Rhigymau’ a gwaith Dic Dywyll fel `Marchnad Caernarfon’ a `Castia Lerpwl’ ac yn dyfynnu o’i waith. Mae’n nodi iddo wneud map o ran o Eifionydd gydag enwau rhai lleoedd fel Tyddyn Ruffydd, Bryn Bychan, Tyddyn Mawr, Ffriwlwyd, Pompren a Bryn Beddau a’r Afon Wen a’r Ddwyfach ac mae’n disgrifio eu lleoliad. Mae’n cyfeirio at Nicander, John Owen, y Gwindy (Ty’n llwyn, Bangor wedi hynny a thad y diweddar John Owen, MA, Criccieth), Ioan Lleyn, loan Wythwr, Huw Derfel a luniodd cywyddau `Y Bore Olaf’ a’r `Cyfamod Disgil’, Ieuan o Leyn a `Beth Sy’n Hardd’, Gwenffrwd a `Gwneud i mi feddrod’, a Dr. Emlyn Jones a `Fedd y Dyn Tylawdd’. Darnau wedi eu croesi allan mewn pensil.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.