skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/5.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811, 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at [William R. Williams, Llanllyfni ei gyfyrder]. Mae’n trafod ei berthynas gyda William sef bod ganddynt yr un hen nain. Cofiai i’w fam son fod gan ei nain ddwy chwaer, un yn Nyddyn Mawr, Ffriwlwyd a’r llall yn Rhosgill Bach. Watkin oedd teulu Tyddyn Mawr. Meddent ar longau (un o’r enw Blue Vein), ac `roeddynt yn hwylio i fannau fel Hamburg. `Roedd Ann Watkin yn byw yng Nghynordy (gatehouse) yn Frondirion - y plasdy bach a godwyd gan Dr. Pughe o’r tu uchaf i Frynaerau. Ei merched oedd gwraig Griffith Williams, Penybont y Cim a gwraig Brysgyniganol. Yr olaf oedd mam Watkin y Crydd a fu’n gweithio i John Parry. Mae’n trafod llythyrau a dderbyniodd gan William a rhai a anfonodd ato ac iddo ddychwelyd toriadau o bapurau newydd. Cyfeiria at brinder menyn ac at Gae Crin a Chae Mwynarr/Cae Mwynann/Cae Mwynert, Hengwm, Cwm, Tyddyn Hir ac lle Jones, Tyddyn mawr a oedd yn gefnder i wraig Lloyd George (Maggie Mynydd Ednyfed). Nodai bod dwy fferm o’r enw Bryn Mawr tua milltir ymhellach na Siop Pensarn ger capel Sardis. Mae’n trafod canmoliaeth William o wr Brychyni a’r `Hogia Bach’. Nanney’r Gwynfryn a feddai ar Frychyni. Cyfeiria at Syr Hugh yn priodi Gwyddeles. Mae’n cofio’r adeg iddo saethu petris a fagodd Tomos Williams i’w feistr tir ynghyd â hwyaid gwylltion. Nid oedd Nicander mor hoff o Frychyni. `Roedd yn byw ym Mryn March ger Stesion’r Ynys. Anfonwyd ef i Frychyni i gasglu arian dyledus ac ni chafodd fawr o lwyddiant. Mae’n trafod a holi William am bysgota yn Afon Ynys Creua sef Afon Wen gyda’r tarddle yng nghae Cerrig Merched, Cwm. Mae’n trafod barn William am hanes y Cerddor Dall, sef `Meurig Bach’. Mae’n cyfeirio at Wil Jos Ty’n Lon, chwaer Morus, hen bartner John W.G. Bu Hannah yn gweithio gyda Dic Bodychain ym Mhenygroes. `Roedd bachgen o r enw Dic Morus ar ôl Anne. Mae’n cofio Eisteddfod Penygroes a’r enillwyr. Cyfeiria at farwolaeth y meddyg Robert Owen yn wreiddiol o Cae’r Arbra yn y Garn; ei ewythr oedd Dr. Evan Roberts. Bu William Owen (brawd gwraig Michael) yn y Coleg yn Glasgow gyda Dr. Jones. Mae’n trafod llun ty a chapel Brynengan o waith John; credai iddo gael ei adael yn Nhyhwntirmynydd. Cathrine, merch y Caerau aeth yno i fyw ar ôl Laura ond iddi symud i Gefngraianog ond fod y mab yno o bosib. Dymunai gael copi o gofiant Robert Dafydd. Meddai ar gofiant Michael Roberts a oedd yn gefnder i’w dad. Ar ei ôl ef y cafodd ei enw. Cyfeiria at lyfrau yn ei eiddo yn cynnwys `Y Cristion Mewn Cyflawn Arfogaeth’ gan William Gurnal, o eiddo Robert Dafydd yn 1784. Credai iddo gael ei rwymo gan y Parch. Moses Jones, Dinas, Lleyn. Cyfeiria at Myrddin, llythyr Eben Fardd i John W. Michael Pritchard o deulu’r Ffridd, John Povey. Mae’n cwyno am ei lwynwst (lumbago). Mae’n anfon postal order. Canmola waith Kate Roberts o Rosgadfan, `O Gors y Bryniau’. Marciau mewn pensil ar y llythyr.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.