skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/4.

LLYTHYR: M.R. Hughes, 811, 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at [William R. Williams, Llanllyfni] yn cwyno ei fod wedi bod yn dioddef o lumbago. Mae’n holi am Dafydd, Felingerrig a John ei frawd, Wil Jones (Ty’r Capel, Pant Glas), `Jones y Maer’, a John Gray. Mae’n trafod marw Evan Hughes a Dafydd ei frawd ieuengaf, meibion Graianog, yn y Felingerrig a fuodd yn ysgol Ynys yr Arch fel yntau. Bu i Ifan fynd ar un fordaith ac yna priodi Mary Rowlands, Ty’n Derwin ac aethant i fyw i Goedcae du, hen gartref y Parch. Richard Jones, Y Wern, a’r Rarch. W.O. Jones, B.A., Lerpwl (Wil Tudraw i’r Afon). Ar ol ei marwolaeth fe briododd gyda Leus, Brynyffynon, me rch hynaf y diweddar W.M. Owen a aeth i Fraich y Saint. Mae’n trafod atgof ion yn Y Genedl am Ddyffryn Nantlle gan J.W. Parry o Ardudwy ac yn arbennig hanes y rheilffordd a’r prysurdeb yn Llanllyfni. Cafodd 2 nafi drwydded i agor tafarn yng Nghoed Cae du/Coed y Coecia a chael telynor yno. Mae’n cyfeirio at ddamwain ar y rheilffordd ym Mhenllystyn (Bryncir) tua mis Medi 1866 ar yr adeg y cynhelid Sasiwn yng Nghaernarfon. Bu trafodaeth am hyn yn Y Drych flwyddyn neu ddwy yn ôl ac anfonodd y Parch. Henry Hughes, Bryncir, lythyr i egluro’r cyfan. Yr oedd ef yn un o’r teithwyr ar y rheilffordd. Mae’n nodi i’w dad farw yn fuan wedyn, cyn iddo yntau gyrraedd tair oed. Mae’n adrodd ei hanes yn mynd ar y tren i Gaernarfon. Bu i J.W. Parry drafod tynnu i lawr hen blasdai ym Mhenygroes sef `Y Gegin’ a’r `Castle’. Cyfeiria at gapel Saesneg Hendre, Llanhaearn a chapel Wesla Penygroes. Mae’n adrodd hanes Tom Rogers o’r Llan, saer a aeth i bysgota gydag ef i’r Afon Desach ger Tai’nlon. Nid yw’n cofio gweld William yn cael reid ar gefn llo o Dy’n y caeau, yna mae’n cyfeirio at Harri Da, John Parry ei frawd, Twm Robarts (Ty Ffowc, y Clochydd), Dafydd Bronrhiw, Nicander a Phedr Fardd, Syr Hugh Owen (Llangeinwen, Môn) a theulu William. Holai am William John mab Rowland Jones a’i gysylltiad gyda Griffith W. Jones. Mae’n trafod Watkin y Crydd wedi mynd i Bant Glas, Wil Jones a Began, a holai a yw Magie yn cadw tafarn o hyd. Cyfeiria at gƒn ddoniol Alafon yn `O Nebo i’r Llan’. Cofiai am y `Ty Pren’ ac i Wm. Chambers y Vaults ofalu am y ?rate ac iddo weld Bob, Ty Ffowc am y tro olaf yn Granville, New York, c . 1887 tra’n dod o’u capeli ac ei fod yn anhebyg i’w frawd John. `Roedd yn amaethwr o bosibl ac efallai’n gweithio yn y chwarel yn ysbeidiol. Holai am deulu Lleuar Fawr a mab J. Jones a Mary ei wraig. Bu i Mary gael ei magu yng Nghae’r Wrach ger Cwmcoryn ger Bryn Bychan. Merch o Mynachdy Bach, Brynengan ydoedd ac i’w theulu fynd yno i fyw yn fuan wedi claddu `hen fardd y Betws’, Robert ab Gwilym Ddu, awdur "Mae’r gwaed a redodd ar y groes". Cofiai am Mary a’i brawd Robert, Pen cerddor Brynengan a’u rhan yn y Cyfarfodydd Canu. Gwraig gyntaf eu tad oedd ei nain. Yna mae’n trafod meibion Richard Jones (Asiedydd), un nad yw’n cofio ei enw a Tom a gadwai iard goed ger y stesion a Dic, brentis o lyfr-rwymydd gyda G. Lewis ond a aeth i Awstralia. Cofiai bod yn yr injan gyda llwyth o goed i’w llifio ac yn y llofft nesaf Daniel Puw Bach yn pinio llechi a David Jones y pregethwr yn plaenio-y fframiau. Darnau o’r llythyr wedi eu marcio gyda pensil.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.