skip to main content

Pori'r archifau

XM/5867/1.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at ei gyfyrder [William R. Williams, Llanllyfni] yn trafod safon llythyrau, ei salwch, traethawd `Hanes yr Achos yn Llanllyfni’ gan tad John Bookseller ac yn ceisio darganfod ei leoliad yn yr Amerig, atgofion am smocio gyda Guto Bronturner ac Owen Roberts (Hendre’r Cenin) ac yn cyfeirio at siopau Bookseller a Siop Roberts y Sgwl, atgofion am hen gyfeillion fel D.R. Daniel, Tudwal a’i frawd John Davies, (Cae’r Tyddyn), Robert Williams, (Henllan, Mur Cyplau ger Bryn Bychan cya hynny), Owen Jones (Plas Gwyn), y tafleisydd ac adroddwr a Richard Owen, Plas Bel, (Plenydd). Cyfeirio at was Dr. Daniel (Peredur) fel masnachwr cyfoethog yn Llundain; cyfeirio at marw Richard Ellis (Penbryn Moch gynt), yng Nghorris neu Abergynolwyn; hanes Band Nantlle gan gyfeirio at Huw Tomos Bach, drymiwr; hanes Band Llanllyfni a `Guto bach Nantw’ Griffith Roberts, aelod, a hogia Soar fel Wil Jones brawd R.W. Jones (Cilgwyn) a O.W. Jones; Twm Gwen a enfllodd wobr yn y Sarn gyda A. Henderson; hanes damwain yn y Gelli Bach; anfon drychau; darllen y Druid a beirniadaeth Pedrog am gyfansoddiadau eisteddfod Utica ac iddo ennill gyda `Hen Bonc y Llan’ ac yn son fod James J. Davies, ysgrifennydd Llafur wedi ennill gwobr hefyd. Mae’n trafod beirdd a’u cyfansoddiadau sef Williams Parry, Parry-Williams, T. Gwynn Jones, Hedd Wyn, J. Morris Jones. Cyfeirio at y cadeirio yn Utica ac Arfonydd fel archdderwydd ac enwau’r rhai teilwng sef Charlie Morris (Penygroes gynt) a D. Lloyd Davies, Utica. Adroddai hanes y bardd Dewi Hafhesp o Landderfel a drigai yn un o dai tad Mrs. D.R. Davies ac iddo gyfansoddi englyn am athrawes ifanc Miss Davies a benodwyd yn brifathrawes ysgol y genethod yn Ninbych. Ei mab oedd Tegid Prys Jones, arolygydd ysgolion y de a bardd. Cafodd lawer o hanes Dewi pan weithiai yn Siop Fawr Talysarn gan Hywel Cefni. Mae’n ceryddu llawer o ysgrifennwyr ifanc yn arbennig Saunders Lewis. Cyfeiria at ddiwedd y Cymru ac mai O.M. Edwards oedd yr ysgrifennwr Cymraeg gorau yn ei oes. Cyfeiria at bapurau fel Y Genedl, Y Drych ac at waith William ar `Byd y Chwarelwr’. Trafoda agor neuadd goffa a bod Lewis O. Thomas, Bryncir, mab `Johnnie’r Inn’ brawd Maggie wedi ei rhoi i fyny a’i gysylltiad a’r Mart. Yna trafodai atgofion am Ffynnon Rhedyw, Afon Wen a byd natur, a chyfeira at Daniel Puw, potsiwr. Rhai darnau o’ r llythyr wedi eu croesi a phensil.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.