skip to main content

Pori'r archifau

XM/3607/109.

DRAFFT O LYTHYR: [William Hughes], Tynyffordd Efailnewydd at Simon [ei fab], yn gobeithio fod y teulu’n iach. Bu farw Thomas W. Thomas brawd-yng-Nghyfraith Alun bore ddoe mewn Cartref yn Lerpwl ar Aol aros 3 wythnos yno, bydd ei angladd ddydd Sadwrn. Yr oedd ei dad yn gefnder iddo [W. Hughes]. Bu angladd W. Davies, gof, ddoe. Roedd ei fab wedi dweud wrth Anne Hughes, priod Alun, y buasai ef [W. Hughes] yn cael ei gario yno os oedd am ddod i’r angladd ond nid oedd yn teimlo’n ddigon cryf i fynd. NODYN ar waelod y papur: `nid aeth y llythyr hwn. Aeth R. Owen yno’.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.