skip to main content

Pori'r archifau

XM/3607/105.

LLYTHYR: Hugh [Hughes], 8 Cecil Rd., Seaforth Liverpool at ei frawd, William Hughes, Tynyffordd Efailnewydd, nr. Pwllheli. Y maent yn mynd i fyw i Eccles ger Manchester lle y mae Arianwen yn gweithio, ac y mae’n ddigon cas ganddo fynd ar ol bod yn Lerpwl ers dros 32 o flynyddoedd. Ond am eu bod yn mynd i oedran, yr oeddynt yn meddwl y buasai’n well iddynt fod at eu gilydd. Mae Thomas Charles wedi newid ei Gwmpeini ac ddim yn debyg o fod adre am tua blwyddyn neu ragor. Mae ef [H. Hughes] a Phoebe wedi gwella’n dda. Mae Arianwen yn iach, ac Elias a’r teulu pan glywsant ddiweddaf, a Thomas Charles yn hoffi ei le newydd. Mae Mary Nevin wedi bod yno ers yr wythnos ddiwethaf yn eu helpu i gael pethau’n barod i fynd i Eccles ac y mae am fynd i Eccles yr un diwrnod a’r dodrefn i helpu Arianwen i gael y Ty Newydd yn barod.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.