XM/3607/93.
LLYTHYR: W[illiam] John [Hughes] a’r teulu, 55 Rawson Rd., Seaforth, Liverpool at y teulu [Hughes Tynyffordd, Efailnewydd]. Roedd yn falch o glywed fod na le i Owen a Nefyn yn Bodhyfryd ac y mae wedi ysgrifennu heddiw i dderbyn y cynigiad. Mae Owen yn well ar Aol dod o’r ysbytty ond bydd aros yn Bodhyfryd yn gwneud lles mawr iddi. Mae yn rhyfedd eu bod wedi dal cystal y pethau yr ydynt wedi dod drwyddent. Bydd ef yn gadael iddynt wybod pryd y byddant yn dod, ac efallai y daw Madryn i’w cyfarfod. Yn gobeithio fod Frances yn para i wella.