skip to main content

Pori'r archifau

XM/3607/62.

COPI O LYTHYR: William Hughes, Tynyffordd, Efail Newydd, Pwllheli at Mr. Pritchard yn gofyn iddo anfon at Clayton a Shuttleworm, Engineers, Lincoln am ddarnau i’r peiriannau dyrnu. Hefyd mae’n gofyn iddo roi cais am ei fab i’w helpu i drwsio’r peiriannau ac i ganlyn y peiriannau. Y mae’r mab yma gyda’r fyddin yn Ffrainc ers dros 2 flynedd. ADYSGRIF: Cyfeiriad ei fab ydyw: Pte. R.E. Hughes, 121204, M.T.A.S.C., H.Quarter Workshops P.S.A.P., B.E. Force, France. Y mae ganddo ddau fab arall gyda’r fyddin.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.