XM/3607/59.
LLYTHYR: Hugh H[ughes], 8 Cecil Road, Seaforth Liverpool at ei chwaer [yng nghyfraith], Mrs. Ann Hughes, Tynyffordd, Efailnewydd, Pwllheli. Mae wedi gyrru £40 i William i orffen yr hanner cant oedd Griffith Brynmoelyn wedi ei ddal o’r arian oedd yn ddyledus i William o Lettywyn ond nid ydyw wedi cael derbynneb ganddo. Mae ef yn gofyn iddo geisio ganddo wneud. Mae T. Charles wedi ymuno a’r fyddin ers mis bellach ac y mae wedi mynd i Pembroke Dock. Da ganddo glwyed fod Alun wedi bod adref ac yn edrych mor dda. Mae ei chwaer Ann gydag ef yn nhy Owen ers nos Sadwrn. Yn gobeithio fod y teulu i gyd yn iach yno [yn Nhynyffordd] ac ym Mryn- rodyn. Roedd Elias yn cychwyn i Ganada yr wythnos i’r Sul diweddaf, ac yn diolch iddynt am y presant.