skip to main content

Pori'r archifau

XM/3607/54.

COPI O LYTHYR: William Hughes, Tynyffordd, Efail Newydd, Pwllheli at Mr. Williams. Gan ei fod yn deall fod Mr. Williams yn sefyll dros amddifyn amaethyddiaeth yn `nrhibunlys’ y Sir ym Mhwllheli, y mae ef yn apelio ato i gymeryd sylw o’i achos. Y mae yn esbonio’r sefyllfa adref: dim ond yr un mab sydd ganddo i weithio efo’r ceffylau a gyda’r peirianau dyrnu. Mae ganddo 2 `ddyrnwr’ (threshing machines) at iws y wlad, ac y maent yn gweitheo mewn 8 o blwyfi. Mae 2 o’i ddynion wedi ymuno a’ r fyddin, sef Griffith Jones, Penbont, Llannor a’i fab Roger sydd yn Ffrainc ers mis Ebrill. Mae ganddo fab yn gwerthu llefrith ac yn porthi’r gwartheg, ac yn mynd a’r llefrith o dri o leoedd sef Geotraf, Hendref a Phenllwyn yn tribiwnllys, yr ail cyfisol, ym Mhwllheli, pasiwyd i’w fab gael esgus- odiad hyd Mehefin laf, ac y mae yn apelio yn awr yn erbyn y dyfarniad, am fod angen ei fab i weithio ar y ffarm.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.