XM/3607/48.
COPI O LYTHYR: William Hughes, Tynyffordd Efailnewydd, Pwllheli at Mrs. Lloyd [?Canada] yn ysgrifennu ati ar ôl tua hanner canrif. Cafodd ei chyfeiriad gan deulu Bryndwyfor, ac y mae wedi ysgrifennu at T. Jones, mab i ferch chwaer Mrs. Lloyd ar faes y rhyfel. Yn son am yr hen amser pan oeddynt yn ifanc, ym Mhensarn, am Griffith ac Elen Roberts, Bryn- dwyfor, cyn iddynt briodi. Priododd ef gyda merch o Sir Feirionydd tua 37 mlynedd yn ôl ac y mae ganddynt chwech o feibion, tri ohonynt wedi priodi a’r ieuengaf yn 18 oed. Y mae pawb oedd ym Mhensarn gyda hwy wedi marw bellach. Yr oedd yn ddrwg ganddo glywed fod Mrs. Lloyd wedi torri ei choes, Byddai’n falch iawn os deuai hi drosodd i Gymru. Byddai’n hoffi cael ei llun.