XM/166/81.
LLYTHYR: Y Parchedig W.E. Davies, St. Luke’s Presbyterian Church, Finch, Ont, Canada, at ei gefnder. Wedi cael ei sefydlu yno y 14eg o Ebrill. Teithiasant 984 o filltiroedd yno mewn pedwar diwrnod. Y mae’r lle yn ganolog, 103 o filltiroedd i’r gorllewin o Montreal, a 50 o Ottawa, prif ddinas Canada. Mae ganddo ddwy eglwys yno ac yn pregethu tair gwaith bob Sul. Dim byd ar hyd yr wythnos ond Cor yn yr haf, a chyfarfod y bobl ifanc yn y gaeaf. Mae yn barod wedi ymweld â 60 o deuluoedd allan o 150. Maent yn rhoi pwys mawr ar ymweld yn y wlad hon. Mae’r mwyafrif yno yn Scotiaid, ychydig yn Wyddelod, ond dim ond un Cymro. Owen J. Roberts o Niwbwrch Sir Fon oed ei rhagflaenwr, yr hwn sydd wedi mynd yn ol i’r Unol Daleithau, New York State, a buont oll yn ei gwrdd sefydlu ef 133 milltir i ffwrdd y nos Iau flaenorol. Mae’n deall fod ewyrthr ei wraig, Hugh Humphreys, Nant Peris, blaenor yn Rehoboth, yn bur wael, ac yn hyderu y caiff adferiad eto. Mae John yn eistedd arholiad am Lambedr y mis hwnnw, maen gobeithio y bydd yn llwyddianus am mai prif ddymuniad ei dad oedd iddo fynd yn offeiriad. Yn anfon ei gofion.